Mae rygbi Cymru’n methu oherwydd nad yw’r cefnogwyr erioed wedi cynhesu at y “cysyniad rhanbarthol” meddai Aelod Seneddol heddiw.
Mae Owen Smith, sy’n AS dros Bontypridd, wedi galw am adolygiad o’r gêm yng Nghymru ac wedi erfyn ar y rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru i gyrraedd cytundeb.
Mae’r corff sy’n cynrychioli’r rhanbarthau, Rygbi Rhanbarthol Cymru, yn bwriadu mynd a’r undeb i’r llys. Mae’r rhanbarthau eisiau newidiadau pellgyrhaeddol i’r gêm yng Nghymru neu maen nhw’n barod i adael a chreu cynghrair Eingl-Gymreig gyda chlybiau Lloegr.
Un o’r problemau yw bod chwaraewyr gorau Cymru’n gadael y wlad am glybiau dros y ffin neu dramor yn Ffrainc oherwydd eu bod nhw’n talu mwy i’r chwaraewyr.
Mae bachwr Cymru, Richard Hibbard, wedi arwyddo i Gaerloyw’r wythnos hon ac mae Caerlŷr wedi datgan eu bwriad i fynd ar ôl maswr y Scarlets, Rhys Priestland.
Mae’r rhanbarthau wedi sgwennu at Aelodau Seneddol Cymraeg ac aelodau’r Cynulliad yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer yr achos llys posib gyda’r undeb.
Meddai Owen Smith ei fod o blaid newid ond mae wedi galw ar y rhanbarthau a’r undeb i setlo’r gwahaniaethau y tu allan i lys barn.
Meddai Owen Smith: “Er bod Cymru wedi mwynhau llwyddiant mawr ar lefel ryngwladol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r timau wedi bod mewn argyfwng parhaol ers i’r clybiau rhanbarthol gael eu creu.
“Mae ein gêm yn methu am nad yw cefnogwyr wedi cynhesu at y cysyniad rhanbarthol ac eisiau gêm sy’n seiliedig ar hunaniaeth clybiau traddodiadol a’r canrifoedd o gystadleuaeth frawdol sy’n bodoli rhyngddynt.”
Fe wnaeth o hefyd feirniadu’r clybiau a’r undeb am arddangos eu pŵer yn y rownd ddiweddaraf o sgyrsiau sydd wedi’u hanelu at newid strwythurau’r gynghrair sy’n bodoli eisoes.
Dywedodd Owen Smith: “Dyw’r argyfwng diweddaraf yn ddim byd mwy na brwydr am rym rhwng y clybiau a’r undeb i weld pwy all reoli prif asedau’r gêm, yr arian a’r chwaraewyr sy’n eu cynhyrchu.
“Pwy bynnag fydd yn ennill y frwydr honno, bydd y gêm ehangach ar ei cholled yn y tymor hir.”