Mae hi’n ddiwedd blwyddyn arall o bêl-droed – felly beth gwell na chyfle i edrych dros hynt a helynt clybiau, chwaraewyr a thîm rhyngwladol Cymru dros y flwyddyn diweddaraf!

Yn ymuno ag Owain Schiavone ar y pod diwedd flwyddyn yma mae Iolo Cheung, Gareth Pennant a Sion Richards, wrth iddyn nhw roi’u hargraffiadau ar bwy sydd wedi serennu yn 2013.

Mae’r criw yn edrych yn ôl ar ymgyrch aflwyddiannus Cymru i gyrraedd Brasil 2014, brolio Bale a Ramsey, a thrafod gyrfaoedd yr hen bennau, Ryan Giggs a Chraig Bellamy.

A beth am lwyddiant ysgubol y clybiau? Pwy oedd yn sefyll allan, a pha glwb gafodd y tlws mwyaf allweddol – Abertawe, Caerdydd, Casnewydd neu Wrecsam?

Ac yn olaf, mae’r pedwar yn dewis un dymuniad bêl-droedaidd ar gyfer 2014!