Simon Easterby
Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby wedi dweud y gall yr anghydfod rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r Rhanbarthau arwain at golli swyddi ac effeithio bywoliaeth pawb sydd ynghlwm a’r gêm yng Nghymru.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn obeithiol y gall y Rhanbarthau benderfynu parhau â’r Cytundeb Cyfranogiad erbyn y terfyn amser o 31 Rhagfyr 2013.
‘‘Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai popeth yn cael ei ddatrys yn y cyfarfod diwethaf ond mae’r wythnosau nesaf yn hynod o bwysig wrth edrych ymlaen at y dyfodol. Mae yna lawer o bobl sy’n cael eu cyflogi fel y chwaraewyr, hyfforddwyr, staff cynorthwyol a’r holl bobl sy’n gweithio ar feysydd rygbi Cymru,’’ meddai Easterby.
Ond ar Ddydd San Steffan bydd y Scarlets yn croesawu’r Gweilch i Barc y Scarlets ac mae Easterby yn benderfynol o sicrhau perfformiad teilwng wrth ei dîm yn y gêm ddarbi.
‘‘Mae’n bwysig i ni fel rheolwyr i barhau i gynnal ac i godi safon y chwaraewyr, bydd rhaid anghofio am y sefyllfa bresennol a chanolbwyntio ar y gêm sydd o’m blaenau,’’ ychwanegodd Easterby.