Michael Laudrup
Bydd golwr Abertawe Michel Vorm yn cael llawdriniaeth heddiw er mwyn gwella trafferthion hir dymor y mae wedi bod yn ei gael gyda’i ben-glin.
Roedd y clwb wedi gobeithio y byddai’n medru parhau i chwarae dros fis Ionawr, ond ar ôl dioddef mwy o broblemau yn erbyn Norwich ddydd Sadwrn, penderfynwyd dechrau ar y driniaeth yn syth.
Gerhard Tremmel fydd yn cymryd yr awenau yn y gôl yn y cyfamser, gyda’r rheolwr Michael Laudrup yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd Vorm yn dychwelyd o’r anaf mewn pedair i bum wythnos.
Dywedodd y clwb ar eu gwefan y bydd yn rhaid i ddoctoriaid archwilio’r pen-glin a chlirio unrhyw denynnau a darnau o asgwrn rhydd, gyda’i gyfnod o wella yn dibynnu ar lwyddiant y llawdriniaeth.
Yn gynharach y mis hwn dywedodd Vorm ei fod yn cael trafferthion gyda’i ben-glin chwith, a’i fod yn awyddus i gael y driniaeth mewn da bryd cyn Cwpan y Byd yn yr haf, pan fydd y gŵr 30 mlwydd oed yn gobeithio bod yn rhan o garfan yr Iseldiroedd.
Newyddion da
Mewn newyddion gwell o ran anafiadau, cyhoeddodd y clwb fod Leon Britton bellach yn ôl yn ymarfer ar ôl methu’r pum gêm ddiwethaf, gyda disgwyl i Chico Flores ymuno â gweddill y garfan eto’n hwyrach yn yr wythnos ar ôl iddo wella o drafferth i’w ben-glin yntau.
Mae’r ddau yn gobeithio bod yn barod ar gyfer y penwythnos, pan fyddan nhw’n herio Everton.
Yn y cyfamser mae is-reolwr Abertawe Morten Wieghorst wedi awgrymu nad yw’n credu y bydd Laudrup yn cael ei demtio i adael, gyda Tottenham Hotspur yn chwilio am reolwr newydd yn dilyn eu penderfyniad i roi’r sac i Andre Villas-Boas.
“Dwi ddim yn credu dylai’r clwb boeni,” meddai Wieghorst wrth BBC Sport. “Rydyn ni wedi gweld yn ystod ei amser yma ei fod yn cael ei gysylltu â swyddi gwag eraill ac mae wedi dweud: ‘Dwi’n aros’.
“Mae Michael wastad wedi denu diddordeb oherwydd ei fod o’n gwneud gwaith mor dda, oherwydd ei fod yn rheolwr da ac oherwydd beth y mae wedi’i wneud yn y gêm.”