George North
Mae clwb Seintiau Northampton wedi cael eu galw i mewn i banel disgyblu heddiw gan Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr am adael i George North fynd i chwarae dros Gymru y tu allan i’r ffenestr ryngwladol swyddogol.

Yn ôl papur y Daily Mail, mae disgwyl i’r cyfarfod heddiw benderfynu a fydd y clwb yn wynebu cosb am fynd yn groes i reolau gafodd eu cymeradwyo gan 12 clwb y gynghrair.

Cafodd North ganiatâd gan Northampton i chwarae dros Gymru yn erbyn Awstralia ar 30 Tachwedd – pan gollon nhw 26-30 – er nad oedd y dyddiad hwnnw’n disgyn o fewn y ffenestr swyddogol.

Credir fod gan North gymal yn ei gytundeb gyda’r clwb i adael iddo chwarae yn holl gemau rhyngwladol Cymru, gan gynnwys y rheiny sydd y tu allan i’r ffenestr.

Ond mae hynny’n groes i gyfarwyddiadau Premiership Rugby, sydd ddim yn caniatáu eu clybiau i ryddhau chwaraewyr ar gyfer y math yma o gemau oni bai mai chwaraewyr Lloegr ydyn nhw.

Fe gyfaddefodd Northampton eu bod wedi ymddwyn yn groes i “bolisi” Uwch Gynghrair Lloegr wrth ryddhau North, ond nad oedden nhw wedi torri “unrhyw reolau, cyfreithiau neu reoliadau” y gynghrair.

Ar y pryd fe amddiffynnon nhw eu hunain gan ddweud bod caniatáu i chwaraewr fel North ddychwelyd i chwarae dros ei wlad yn gyfaddawd oedd yn rhaid ei wneud er mwyn denu chwaraewyr o’r fath safon i’r gynghrair.

Northampton yw’r clwb cyntaf i gael eu herio am fynd yn groes i’r rheolau, ac fe all y clwb wynebu dirwy petai nhw’n euog – ond dyw North ei hun ddim mewn trwbl o gwbl oherwydd iddo chwarae dros Gymru.

Dan Lydiate (Racing Metro) oedd yr unig un arall o’r Cymry oddi cartref i chwarae yn y gêm honno, gyda Paul James (Caerfaddon) a James Hook a Luke Charteris (Perpignan) i gyd wedi gorfod dychwelyd i’w clybiau.

Mae disgwyl i’r panel gyhoeddi’u dyfarniad yfory.