Malky Mackay
Mae rheolwr Caerdydd Malky Mackay wedi dweud bod “dyletswydd” arno i aros gyda’r clwb ac nad yw’n bwriadu ymddiswyddo.
Daw hyn yn sgil anghydfod gyda’r perchennog Vincent Tan ynglŷn â’r arian fydd ar gael i gryfhau’r garfan ym mis Ionawr, gyda Tan yn dweud mewn datganiad ddoe nad oedd “ceiniog” i’w wario.
Yn ôl prif weithredwr y clwb Simon Lim roedd Tan “wedi siomi’n arw” wrth glywed fod Mackay wedi dweud yn gyhoeddus ar y penwythnos ei fod yn gobeithio gallu arwyddo hyd at dri chwaraewr newydd i’r clwb.
Cyhuddodd Tan Mackay o “godi gobeithion” cefnogwyr yn afresymol wrth ddweud ei fod yn bwriadu arwyddo enwau newydd, gan ddweud fod gorwario o £15m dros yr haf yn golygu nad oedd unrhyw arian ychwanegol ar gael i Mackay y tymor hwn.
Dywedodd Tan hefyd mai’r gorwario hwnnw ar chwaraewyr, gan gynnwys Steven Caulker, Gary Medel, Andreas Cornelius a Peter Odemwingie, oedd yn gyfrifol am ddiswyddiad y pennaeth recriwtio Iain Moody ym mis Hydref.
Canlyniadau yn flaenoriaeth
Ond dywedodd Mackay wrth BBC Radio Wales Sport nad oedd am adael i’r anghydfod diweddaraf effeithio’i waith o gadw Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair.
“Mae’n waith sydd dri chwarter o’r ffordd yno cyn belled a fi’n y cwestiwn pan mae’n dod i wneud Caerdydd yn gynaliadwy yn yr Uwch Gynghrair,” meddai.
“Fy nyletswydd i yw sicrhau ein bod ni’n parhau i wneud hynny, ac nid y peth iawn i mi wneud byddai cerdded bant o swydd oherwydd nad yw’r perchennog am roi arian i mi ym mis Ionawr.
“Fyddai’n sicr ddim yn ymddiswyddo. Mae gen i ormod o angerdd a balchder yn y swydd sydd gen i yma.”
Yn dilyn y ffrae ddiweddaraf, Mackay bellach yw ffefryn y bwcis i gael y sac nesaf yn yr Uwch Gynghrair – ond fe ddywedodd mai paratoi’r tîm ar gyfer eu gêm nesaf oedd ei unig flaenoriaeth.
“Dwi’n dawel fy meddwl,” meddai Mackay. “Mae gen i gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Lerpwl ac rydyn ni’n dilyn o fuddugoliaeth wych yn erbyn West Brom.
“Mae gennym ni 17 pwynt yn mynd i mewn i gyfnod y Nadolig. Rydw i’n gwybod beth yw’r dasg am y misoedd nesaf a’r unig beth sy’n fy ngyrru i yw sicrhau fod y tîm yn cystadlu mor dda ac y gallwn ni yn y gynghrair yma a sicrhau ein bod ni’n rhoi’r cyfle gorau i’n hunain.”
Ymateb Tan yn synnu
Roedd Mackay hefyd wedi’i synnu gydag ymateb Vincent Tan i’r sylwadau a wnaeth yn dilyn y fuddugoliaeth o 1-0 dros West Brom yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn.
“Ar y penwythnos fe ofynnwyd i mi mewn byd delfrydol faint o wynebau newydd hoffwn i weld ym mis Ionawr, ac fe wnes i ymateb mewn byd delfrydol y buaswn i’n hoffi chwaraewyr cyflenwi i’r amddiffyn, canol cae a’r ymosod – dyna’i gyd,” esboniodd Mackay.
“Does dim byd gwahanol, dim geiriau brawychus yn hynny, dwi ddim yn meddwl ei fod e’n newid pethau o ran disgwyliadau.
“Does dim newid i unrhyw beth ar fy rhan i yn nhermau recriwtio, ac yn amlwg mae’r gair wedi dod na fydd unrhyw arian felly mae hynny’n iawn.
“Fe allai wneud awgrymiadau ond ar ddiwedd y dydd fy swydd i yw canolbwyntio ar ennill gemau gyda’r tîm.”