Mae cricedwyr Lloegr wedi colli Cyfres y Lludw ar ôl crasfa arall gan Awstralia – bedair mis yn unig ar ôl iddyn nhw ei hennill hi ddiwethaf.

Dros nos fe sicrhaodd Awstralia fuddugoliaeth o 150 rhediad yn y trydydd prawf yn Perth, gan selio mantais o 3-0 gydag ond dwy brawf yn weddill i chwarae.

Er gwaethaf canrif brawf cyntaf Ben Stokes i Loegr, fe gipiodd Awstralia’r bum wiced oedd yn weddill erbyn dechrau’r prynhawn (5.44yb ym Mhrydain) i sicrhau buddugoliaeth enwog.

Hon oedd y tro cyntaf i Awstralia ennill Cyfres y Lludw ers 2007, pan lwyddon nhw i ennill 5-0. Roedd Lloegr wedi ennill y gyfres ddiwethaf adref dros yr haf o 3-0.

Ond dydyn nhw heb gael y fath lwc o gwbl lawr yn Awstralia’r gaeaf hwn, ar ôl cael eu tolcio o 381 rhediad yn y prawf cyntaf ym Mrisbane ychydig wythnosau yn ôl, cyn colli’r ail brawf o 218 rhediad yn Adelaide.

Mae’r dathliadau eisoes wedi dechrau i Awstralia – ond fe fydd Lloegr hefyd yn awyddus i osgoi crasfa dros y gyfres gyfan wrth golli 5-0, gyda phrofion ym Melbourne a Sydney i ddod.

Cafwyd partneriaeth o 76 rhwng Stokes a Matt Prior wrth iddyn nhw geisio achub y trydydd prawf ar faes y Waca, ond ofer oedd eu hymdrechion ar ôl i Prior gael ei ddal gan Mitchell Johnson, a Stokes gael ei ddal gan Nathan Lyon. Dilynodd wicedi Tim Bresnan, Graeme Swann a Jimmy Anderson yn fuan wedyn.

Roedd y fuddugoliaeth yn gadarnhad o drawsnewidiad Awstralia o dan eu hyfforddwr newydd Darren Lehmann, a gymerodd yr awenau yn ystod Cyfres yr haf pan oedd Lloegr yn eu curo nhw’n wael.

Mae tîm Lloegr hefyd wedi wynebu trafferthion ers cyrraedd Awstralia, gyda nifer o’u prif sêr yn chwarae’n siomedig tu hwnt, cwestiynau’n codi ynglŷn â gallu a dyfodol y capten Alistair Cook, a’r batiwr Jonathan Trott yn gorfod gadael y daith ar ôl y prawf cyntaf oherwydd salwch pwysau meddyliol.