Malky Mackay
Mae perchennog Caerdydd Vincent Tan “wedi siomi’n arw” gyda’r rheolwr Malky Mackay wedi iddo ddweud ei fod yn gobeithio arwyddo tri chwaraewr newydd ym mis Ionawr.
Dywedodd Mackay ar ôl eu buddugoliaeth dros West Brom ar y penwythnos ei fod yn gobeithio gallu dod a wynebau newydd i mewn i’r garfan yn ystod y ffenestr drosglwyddo fis nesaf.
Ond mewn datganiad gan y clwb, dywedodd y prif weithredwr Simon Lim fod Tan yn teimlo fod digon wedi cael ei wario eisoes ac na fyddai unrhyw arian ychwanegol ar gael.
“Roedd Tan Sri Vincent Tan wedi siomi’n fawr wrth ddarllen beth ddywedodd y rheolwr ynglŷn â’r posibiliad o arwyddo wynebau newydd, cyn iddo gael gwybod a fyddai cyllid ar gael,” meddai Lim yn y datganiad.
“Mae’n credu bod gwneud hynny yn codi gobeithion cefnogwyr yn annheg, gan osod pwysau diangen ar y clwb.
“Ei farn ef yw oherwydd y cyllid sydd eisoes wedi’i ymrwymo, gan gynnwys y cyllid drosglwyddo yn yr haf o £35m a gododd i gyfanswm o £50m, gan gynnwys ychwanegiadau, fod y rheolwr wedi cael ei gefnogi’n llawn.”
Esbonio Moody’n mynd
Y gorwariant yma o £15m dros yr haf oedd y rheswm pam y diswyddwyd pennaeth recriwtio Mackay, Iain Moody, yn ôl Lim.
“Mae’r gorwariant o £15m wedi siomi Tan Sri yn fawr, a arweiniodd at gael gwared ar Iain Moody fel pennaeth recriwtio,” meddai Lim. “Oherwydd hynny, mae wedi dweud nad oes ceiniog ar gael i’w wario ym mis Ionawr.
“Ar ôl gwario’r mwyaf o arian o bob clwb gafodd ddyrchafiad, a’r seithfed mwyaf yn yr Uwch Gynghrair dros yr haf, mae’r perchennog yn credu fod y rheolwr wedi cael y cyfle gorau posib o aros yn y Gynghrair.”
Cafodd Iain Moody, oedd yn cael ei ystyried yn agos iawn i Mackay, ei ddiswyddo heb esboniad ym mis Hydref gyda’r clwb yn penodi Alisher Apsalyamov o Gasacstan yn ei le.
Yn dilyn diswyddiad Moody, sydd bellach wedi ymuno â Crystal Palace, roedd sïon ar led fod dyfodol Mackay fel rheolwr yn y fantol.
Roedd Apsalyamov, oedd yn ffrind i fab Vincent Tan, wedi bod ar brofiad gyda’r clwb cyn hynny ac mae bellach wedi cael ei wahardd dros dro oherwydd problem gyda’i fisa.
Dywedodd Mackay ar ôl y gêm gyda West Brom ei fod yn gobeithio cryfhau’r tîm gydag amddiffynnwr, chwaraewr canol cae ac ymosodwr ychwanegol, a’i fod yn disgwyl clywed gan y cadeirydd ynglŷn â faint o arian fyddai ar gael i’w wario.
Mae’r clwb yn 15fed yn nhabl yr Uwch Gynghrair, pedwar pwynt yn uwch na’r safleoedd disgyn.