Mewn tywydd diflas tu hwnt brynhawn Sadwrn, roedd gwen ar wynebau o leiaf un grŵp o chwaraewyr wrth i ‘Tîm yr Wythnos’ golwg360, Clwb Rygbi Llambed, sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 34-3 yn erbyn Llandybie ym Mowlen SWALEC.

Roedd hi wastad am fod yn heriol i Landybie o Adran Chwech cynghrair SWALEC, dwy yn is na Llambed, ac felly a brofodd hi wrth i’r tîm cartref sgorio chwech o geisiau yn y tywydd garw.

Llambed oedd yn chwarae i mewn i’r gwynt a’r glaw yn yr hanner cyntaf, gyda’r tywydd yn gyrru’r cefnogwyr i gyd i mewn i’r ‘clubhouse’ newydd i wylio.

Llandybie’n taro gyntaf

Ac o dan yr amgylchiadau Llandybie sicrhaodd y pwyntiau cyntaf, gyda chic gosb o 40 metr gan y maswr Ben Fetherstone wedi tair munud gyda’r gwynt y tu ôl iddo yn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen.

Roedd camgymeriadau lu ym munudau agoriadol y gêm, gyda phac Llandybie’n ceisio manteisio ar hynny, ond ar ôl i wythwr Llambed Brynmor Jones a’r capten Aled Thomas wneud gwaith da i ennill tir, Huw Thomas welodd fwlch yn yr amddiffyn a charlamu drwyddo am gais unigol gwych yn y gornel.

O dan yr amgylchiadau anodd methodd ei drosiad o’r ystlys, ond tair munud wedyn roedd gan Lambed eu hail gais wrth i’r wythwr Jones fwydo Dyfan Evans i groesi.

Mae sylw lleol wedi bod ar Evans yn ddiweddar, ymysg honiadau o gam-drin anifeiliaid ar ei fferm, a’i berfformiadau wedi dioddef yn sgil hynny, felly roedd hi’n foment poblogaidd i gefnogwyr y clwb pan lwyddodd y canolwr i dirio am ei gais.

Roedd amser am un cais arall i Lambed cyn yr egwyl, gyda’r maswr Huw Thomas yn croesi unwaith yn rhagor ar ôl i amddiffyn Llandybie gamu ymlaen yn rhy gynnar gan adael bylchau y tu ôl iddynt.

Ni lwyddodd Llambed i drosi’r un o’u ceisiau, gyda’r gwynt a’r glaw yn eu herbyn, felly 15-3 oedd y sgôr ar yr hanner.

Gwynt yn hwyliau Llambed

Dechreuodd Llandybie’r ail hanner yn gryf gyda’r pac yn rhoi Llambed o dan bwysau a’r wythwr Tracy Lewis yn cario’r bêl yn gryf. Roedd yr ymwelwyr hefyd yn edrych yn beryglus pan oedd y canolwr Huw Williams, gynt o Lambed, yn cael ei ddwylo ar y bêl.

Ond gyda’r gwynt wrth eu cefnau roedd Huw Thomas yn medru dechrau manteisio ar y tywydd, a chyn hir fe grasodd Brynmor Jones drosodd am bedwerydd cais dadleuol o dan y pyst, gyda Thomas yn trosi.

Gyda’r tywydd yn gwaethygu roedd sgrymiau’n cael eu rhoi yn llawer mwy aml, gyda Llambed yn manteisio ar hyn yn bellach wrth newid eu rheng flaen gyfan i ddod a choesau ffres i’r maes.

Yn anffodus i’r tîm cartref fe dderbyniodd y prop Rob Morgan gerdyn melyn ychydig funudau wedyn, ac roedd ganddo pob rheswm i resynu’r penderfyniad gan mai ei gapten Aled Thomas oedd y troseddwr – nid y tro cyntaf y tymor hwn i Thomas droseddu yn erbyn i un o’i gyd-chwaraewyr chwaith!

Gorffen yn gryf

Er hynny parhaodd Llambed gyda’u goruchafiaeth, gyda gwaith da’r blaenwyr yn gosod y sylfaen i’r mewnwr Joe Thomas lamu ymlaen am bumed cais.

Doedd Llambed heb orffen chwaith, gyda newidiadau safle’n golygu bod Carwyn Lewis yn gorffen y gêm yn y safle rhif 10, a’r maswr amryddawn yn llwyddo i greu lle i’r asgellwr Kyle Ward a garlamodd 40 metr i sgorio cais o dan y pyst.

Troswyd cais Ward gan y clo Gerallt Thomas, mewn ymgais hunanol i geisio sgorio rhywfaint o bwyntiau!

Aeth pethau’n flêr cyn diwedd y gêm gydag anghydfod rhwng bachwr Llambed Aled Jacobs ac un o chwaraewyr Llandybie wedi tacl hwyr, cyn i’r is-gapten Daryl Davies gamu mewn i dawelu Jacobs. Roedd hi’n gam pwysig, o gofio bod gan Lambed ddarbi yn erbyn Aberaeron y penwythnos yma ac felly ddim am golli unrhyw chwaraewr i waharddiad.

Llambed oedd yn fuddugol o 34-3 ar y chwib olaf, gan fynd drwyddo i bedwaredd rownd y Fowlen, gyda’r hyfforddwr Paul Jones yn mynegi’i fodlonrwydd gyda’r canlyniad a gwaith caled y chwaraewyr hyd yn hyn y tymor hwn ac yn gobeithio am anrheg Nadolig cynnar o fuddugoliaeth yn erbyn Aberaeron ddydd Sadwrn yma.

Dyma glip o rai o chwaraewyr Llambed yn cyflwyno’i hunain ar ddiwedd y gêm ac ateb cwestiynau cyflym:

Seren y gêm: Brynmor Jones

Tîm Llambed: Aled Jacobs, Aled Thomas, Brynmor Jones, Carwyn Lewis, Ceri Thomas, Daniel Doughty, Daryl Davies, Dorian Thomas, Dyfan Evans, Eirwyn Thomas, Emyr Evans, Gareth Griffiths, Geraint Thomas, Huw Thomas, Joe Thomas, Kyle Ward, Lyn Jones, Rhys Jones, Rob Morgan

Sgorwyr: Huw Thomas (2), Dyfan Evans, Brynmor Jones, Joe Thomas, Kyle Ward