Ni fydd British Airways yn hedfan tîm pêl-droed Lloegr i Gwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

Yn ôl papur newydd The Sun, roedd y Gymdeithas Bêl-Droed a British Airways wedi cyrraedd sefyllfa amhosibl mewn trafodaethau ar ôl i’r cwmni awyrennau ddweud y byddai’n costio £10 miliwn i gludo’r tîm i Frasil.

Ond mae British Airways wedi dweud na fyddan nhw’n cludo’r garfan a’r staff hyfforddi i Dde America gan nad oes ganddyn nhw awyrer sbâr i wneud hynny.

Bydd Lloegr yn wynebu’r Eidal, Uruguay a Costa Rica yn eu gemau grŵp ar ddechrau’r bencampwriaeth yn ninasoedd Manaus, Sao Paulo a Belo Horizonte rhwng 14 a 24 Mehefin y flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran BA: “Dydyn ni heb wrthod cludo tîm Lloegr i Gwpan y Byd.

“Ond yn anffodus, ni allwn ddod i gytundeb â’r FA oherwydd ni fydd awyren sbâr ar gael am y cyfnod cyfan mae’r FA eisiau un yn ystod cyfnod prysur yr haf.

“Doedd hwn erioed yn fater syml o hedfan y tîm yno ac yn ôl. Dymunwn bob lwc i’r tîm a byddwn yn edrych ymlaen at hedfan miloedd o gefnogwyr i Gwpan y Byd.”