Mae ein blogiwr rygbi ni Owain Gwynedd yn rhagweld buddugoliaeth – o’r diwedd – i Gymru dros y Wallabies…

Chwarae wyth a cholli wyth ydi canlyniadau Cymru yn erbyn y Wallabies yn y pum mlynedd diwethaf.

Colli’r tair olaf o drwch blewyn yn y munudau olaf a dim ond pwynt neu ddau yn gwahanu’r ddwy wlad ar ddiwedd yr 80 munud. Siŵr bod pawb yn cofio cais Kurtley Beale yn y funud olaf llynedd i chwalu calonnau pob Cymro yn deilchion?!

Mae cyfle yn bodoli dydd Sadwrn nid dim ond i guro Awstralia, trydydd tîm gora’r byd, ond i gladdu hunllefau’r gorffennol ac i brofi bod ni yn enw a fydd yn cael ei ystyried fel enillwyr Cwpan y Byd mewn dwy flynedd.

Tydi perfformiadau cyfres yr Hydref heb fod yn berffaith. Er hynny mae’r cochion wedi ennill dwy o dair ac wedi gwthio De Affrica yn agos. Canlyniadau, er gwaethaf perfformiadau, sydd wedi bod yn well na’r un gyfres Hydref ers 2008.

Biggar vs Priestland

Efo cynifer o anafiadau yng ngharfan Cymru mae’r dadleuon posib o ran dewis y tîm i’w gweld wedi diflannu, ac mae’r tîm bron yn dewis ei hun.

Yr unig bwynt trafod sydd wedi bod ydi safle’r maswr. Er i mi gefnogi dewis Rhys Priestland ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica fe wnaeth y Scarlet ddim cymryd ei gyfle.

Cicio gwallus, penderfyniadau gwael a diffyg hyder i ddelio gyda’r bêl ar y llawr yn yr ymosodiad, lle’r oedd Jaque Fourie yn camsefyll, a wnaeth arwain at drydedd cais y Springboks.

Rhaid cyfaddef mai Priestland oedd wedi cael y gêm galetaf fel maswr o’r tri sydd wedi cael eu dewis yn y safle hwnnw hyd yma, ond Dan Biggar ydi’r unig un i serennu.

Ers y Chwe Gwlad, tydi Dan Biggar heb wneud fawr o ddim o’i le. Mae popeth mae o’n ei wneud yn gadarn, boed o’n pasio, cicio a hyd yn oed taclo.

Un peth sydd yn sicr – fydd Biggar ddim yn gadael y tîm i lawr. Fel dysgon ni yn erbyn De Affrica mae un camgymeriad yn gallu arwain at gais yn gyflym iawn. Os rhywbeth, mae cefnwyr yr Aussies yn rhai sydd yn gallu cosbi timau llawn cymaint os nad gwell nag unrhyw dîm arall.

Israel Folau

Mae seren ‘Aussie Rules’, Rygbi’r Gynghrair ac erbyn hyn Rygbi’r Undeb yn chwaraewr talentog a hynod o alluog.

Mae Alex Cuthbert eisoes wedi dweud mai Folau ydi’r chwaraewr sydd rhaid cadw’n ddistaw gan ei fod ar hyn o bryd un o’r chwaraewyr rygbi gora yn y byd.

Mae o’n rhedwr twyllodrus, cyflym a chryf ac os nad ydi hynny’n ddigon dwi’m yn meddwl bod o erioed wedi colli ei afael ar gic uchel.

Yn dilyn perfformiad cicio’r Cymry yn erbyn De Affrica (gwarthus) a thalentau Folau mi fydd angen i dri ôl Cymru fod yn wyliadwrus o’r gic uchel. Os bydd unrhyw oedi neu gamgymeriadau peidiwch â synnu os fydd Folau o dan y pyst cyn troi rownd.

Yn syml iawn, rhaid cadw Folau yn ddistaw os oes buddugoliaeth am fod i’r Cochion.

Y pac

Yn y gorffennol tydi pac Awstralia heb fod ymysg y gora yn y byd. Os gofiwn ni nôl i daith y Llewod cafodd y Wallabies amser caled iawn yn fanna wrth wynebu Alex Corbisiero, Richard Hibbard ac Adam Jones, dau o reng flaen Cymru.

Rhywsut mae’r sgrym wedi bod llawer fwy cadarn ar y daith yma efo’r Saeson methu rhoi gymaint o bwysa arnynt ag oeddynt yn gobeithio a’r Gwyddelod yn cael hyd yn oed llai o lwc.

I’r Aussies mae hyn yn argoeli yn dda gan fod ganddynt lwyfan i’r cefnwyr talentog ac yn enwedig i adfywiad y twyllodrus Quade Cooper.

Os ydi Cymru am ennill y gêm mae rhaid targedu’r blaenwyr, dinistrio’r sgrym a rheoli meddiant yn ardal y dacl. Os ydi Cymru yn gallu gwneud huna, a does dim rheswm i amau yn ormodol oherwydd taith Y Llewod, gall Cymru ennill y gêm.

Canlyniad

Bydd y gêm yn un tynn ac agos. Tebyg iawn i’r blynyddoedd diwethaf. Mae fy mhen yn deud Awstralia o drwch blewyn unwaith eto, oherwydd y nifer o anafiadau sydd yng ngharfan Cymru, ond mae fy nghalon yn deud mai tro Cymru ydi i ennill.

Cymru 21-18 Awstralia

Gallwch ddilyn Owain ar Twitter ar @owaingwynedd.