Iolo Cheung
Mae llawer ym myd pêl-droed (Lloegr) yn beirniadu Cynghrair Ewropa – ond dylai Abertawe fynd amdani heb orfod poeni am yr effaith ar yr Uwch Gynghrair, meddai Iolo Cheung …
‘Niwsans’ o gystadleuaeth sydd â gormod o gemau ynddi i dimau o Uwch Gynghrair Lloegr yw cystadleuaeth Cynghrair Ewropa, yn ôl llawer o’r llecyn yma yn y byd pêl-droed.
Na, saff dweud fod Harry Redknapp, Alan Pardew, a llawer o reolwyr, chwaraewyr, sylwebyddion a chefnogwyr eraill yn Lloegr ddim yn rhy hoff o ail dwrnament clybiau Ewrop.
Gormod o gemau canol wythnos sy’n blino’r chwaraewyr, yn ôl nhw, a’r ymdrech ddim werth hi’n ariannol yn enwedig o’i gymharu â phrif gystadleuaeth clybiau Ewropeaidd, ‘cash cow’ cysegredig Cynghrair y Pencampwyr.
Y peryg yn ôl llawer yw bod chwarae yng Nghynghrair Ewropa yn medru amharu ar y clwb yn y gynghrair ddomestig – hyd yn oed rhoi’r clwb mewn peryg i ddisgyn lawr o’r adran.
Ond diolch i’w buddugoliaeth yng Nghwpan Capital One y tymor diwethaf, mae Abertawe bellach yn chwarae yn y gystadleuaeth hon am y tro cyntaf yn eu hanes – a bron yn sicr o gyrraedd y rownd nesaf ar ôl canlyniadau neithiwr.
Cymryd hi o ddifrif
Maen nhw’n gosod esiampl dda o sut i drin y gystadleuaeth. Wedi’r cwbl, mae enillwyr y gystadleuaeth yn y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Chelsea, Atletico Madrid, Porto a Shakhtar Donetsk, rhai o glybiau mwyaf Ewrop.
Dyw hi ddim yn gystadleuaeth i droi’ch trwyn fyny arni – dim ond y goreuon sy’n ennill hon.
Ac i fod yn deg dyw Abertawe heb wneud hynny – maen nhw wedi rhoi tîm cryf allan ar gyfer pob gêm hyd yn hyn, a Laudrup yn dweud ei fod yn cymryd y gystadleuaeth o ddifrif.
Beth sydd angen er mwyn bod yn llwyddiannus yn Ewrop yn ogystal ag yn yr Uwch Gynghrair (a’r cwpanau domestig) yw carfan gref o chwaraewyr.
Allwch chi ddim dibynnu ar dîm o 11 chwaraewr gwych – di hynny ddim yn bosib mewn pêl-droed modern gyda’r anafiadau a blinder – ‘rotation’, fel ma’ pawb yn licio deud, di’r ffordd ymlaen.
Laudrup yn cryfhau’n gall
A dyna’n union ma’ Laudrup wedi’i wneud y tymor yma. Dros yr haf fe brynon nhw Wilfried Bony, Jonjo Shelvey, Alejandro Pozuelo, Alvaro Vazquez, Jordi Amat a Jose Canas.
Mae’r rhain i gyd yn chwaraewyr fyddech chi’n disgwyl eu gweld yn ymladd am le yn y tîm cyntaf, heb o reidrwydd fod yn well na’r chwaraewyr hynny oedd gan Abertawe yn barod – ac eithrio Bony ddylai fod yn gwneud yn well o gofio faint wnaeth o gostio.
A phwy wnaeth adael? Dim ond ryw lond llaw ar fenthyg, gan gynnwys Ki Sung-Yeung a Jazz Richards, ac ambell un arall fel Luke Moore a Kemy Agustien am ddim – ac i fod yn onest does dim colled fawr ar eu holau.
Dyw Laudrup felly heb gryfhau 11 gorau Abertawe rhyw lawer ers tymor diwethaf, ond beth mae wedi llwyddo i’w wneud yn sicr yw cryfhau’r rheiny sydd ar y fainc, ac yn gwthio am le.
Mae hyn golygu nad yw’n gorfod poeni cymaint am wanhau’r tîm pan mae’n gwneud newidiadau ar gyfer Cynghrair Ewropa – ac mae’n gwneud digon o’r rheiny ar gyfer bob gêm – oherwydd bod chwaraewyr o safon gymharol yn cymryd eu lle.
Iawn yn y Gynghrair
Ac i’r rheiny sydd yn poeni am yr effaith fydd hyn yn cael ar y gynghrair, peidiwch â phoeni. Mae Abertawe’n 10fed yn yr Uwch Gynghrair ar 15 pwynt ar ôl 12 gêm ar hyn o bryd – ar ôl yr un faint o gemau’r tymor diwethaf roedden nhw yn yr un safle a dim ond pwynt yn well.
Felly Ewrop yn effeithio ar y gynghrair? Na, dwi ddim yn meddwl, ddim rhyw lawer beth bynnag.
Mae Abertawe yn dîm rhy gryf, a’r clwb yn ddigon sefydlog, i beidio gorfod poeni am ddisgyn nôl i’r Bencampwriaeth oherwydd hyn.
Pwy a ŵyr?
Tottenham yw’r ffefrynnau i ennill Cynghrair Ewropa y tymor hwn – ar ôl cyfnod Redknapp fel rheolwr o wfftio’r gystadleuaeth, mae Andre Villas-Boas, a enillodd hi gyda Porto, yn un sy’n ei chymryd o ddifrif, ac roedden nhw’n anlwcus i golli yn rownd yr wyth olaf ar giciau o’r smotyn llynedd.
Ond mae golwg sydyn ar bwy mae’r bwcis yn ffansïo yn awgrymu fod Abertawe hefyd yn cael eu hystyried yn un o’r ceffylau blaen ar hyn o bryd (wedi dweud hynny bydd wyth tîm yn ymuno o Gynghrair y Pencampwyr ar ôl y Nadolig).
Felly pwy a ŵyr, efallai bod wirioneddol gan Abertawe siawns o gyrraedd y ffeinal yn Turin ym mis Mai.
A deng mlynedd o nawr, petai Abertawe rywsut wedi llwyddo i ddod yn bencampwyr Ewrop (o fath) yn 2014, pa gefnogwr yn y byd fyddai ots eu bod nhw wedi gorffen yn 14eg yn y gynghrair y flwyddyn honno?