Neithiwr daeth y cyhoeddiad yng nghyfarfod blynyddol Ymddiriedolwyr Clwb pêl-droed Wrecsam fod y clwb wedi clirio ei ddyled.

Aeth dwy flynedd heibio ers i’r cefnogwyr ddechrau rhedeg y clwb.

‘‘Mae’n braf i wybod bod pob ceiniog sy’n cael ei wneud yn mynd yn syth at y clwb,” meddai Marc Jones sy’n aelod o’r Ymddiriedolaeth.

“Roedd ennill y tlws yr FA yn hwb enfawr i ni fel clwb o ran arian ac o ran denu cefnogwyr i wylio Wrecsam yn chwarae ar gae’r Ras.

‘‘Roeddwn yn rhagwled dyled ar y dechrau, mae’n anodd iawn i redeg clwb yn y gynghrair yma.  Ond yn y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi gweld nifer yr aelodau yn yr Ymddiriedolaeth yn cynyddu o 1,800 i 3,000 sy’n arbennig,’’ ychwanegodd Marc Jones.

Clwb hynaf Cymru

Wrecsam yw’r clwb hynaf yng Nghymru a’r trydydd clwb proffeisynol hynaf yn y byd.  Blwyddyn nesaf fydd y clwb yn dathlu 150 mlynedd o fodolaeth ac mae yna nifer o ddigwyddiadau i ddathlu’r pen-blwydd arbennig y flwyddyn nesaf.