Prynhawn fory fe fydd Cymru yn croesawu Awstralia i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer gêm rynglwadol ola’r Hydref.

Er y siom o golli i Awstralia llynedd yn yr eiliadau olaf o’r gêm, mae tîm rygbi Cymru yn obeithiol y gallan nhw guro’r Wallabies yfory.  Ers i Warren Gatland fod wrth y llyw, mae Cymru wedi colli 22 o gemau yn erbyn timoedd o hemisffer y de, ac ond wedi ennill un.

Meddai Capten Cymru, Sam Warburton: ‘‘Byddai pawb wrth eu bodd i weld ni’n curo Awstralia.  Mi fydd hi’n her, ond mae’n rhaid i ni geisio gwneud hynny.  Mae’r chwaraewyr yn hyderus, os byddwn yn gallu gorffen yr ymgyrch yma gyda buddugoliaeth, gorau i gyd.’’

Er i nifer o chwaraewyr Cymru fod yn rhan o daith llwyddiannus y Llewod, mae Awstralia wedi curo Cymru pedair gwaith yn olynol.

Meddai cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny: ‘‘Rydym ni wedi bod yn agos nifer o weithiau ac mae wedi bod yn rhwystredig.  Ar adegau, rydym ni’n teimlo ein bod wedi chwarae’n well ond yn methu cipio’r peth pwysicaf sef y fuddugoliaeth.’’