Wilfried Bony (CCA 3.0)
Mae Abertawe’n wynebu argyfwng goliau ar ôl i’w prif flaenwr, Wilfried Bony, gael ei anafu yn erbyn Valencia neithiwr.

Fe allai fod allan am rai wythnosau, meddai rheolwr y clwb Michael Laudrup, sy’n credu y dylai’r Elyrch fod wedi cael gêm gyfartal yn erbyn y Sbaenwyr yng nghwpan Ewropa neithiwr.

Fe fyddai hynny wedi mynd ag Abertawe trwodd i’r rowndiau nesa’ – maen nhw angen un pwynt arall i fod yn saff, gydag un gêm yn weddill.

Fe wnaeth y dyfarnwr gamgymeriad trwy beidio â chaniatáu gôl ddilys i Abertawe ond fe fydd yr anafiadau – i Bony a hefyd i’r cefnwr Angel Rangel – yn bryder mwy fyth i Laudrup.

Michu – yn ôl?

Dyw’r sgoriwr cyson arall, Michu, ddim wedi dod yn ôl eto ar ôl iddo yntau gael ei anafu yn y gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd.

Fe ddywedodd Michael Laudrup y gallai fod yn chwarae o fewn yr wythnos nesa’ ond fe fydd profion yn cael eu cynnal ar Bony yn ystod y dydd heddiw.

Roedd yr anaf yn “edrych yn eitha’ difrifol” meddai Michael Laudrup.