Ryan Giggs
Mae’r Cymro Ryan Giggs yn dal i fod eisiau ennill tlysau a pharhau i chwarae pêl-droed – er ei fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed.

“Dw i’n dal i fwynhau chwarae,” meddai. “Dw i’n dal i fod eisiau gwneud yn dda a dw i’n dal i fod eisiau ennill tlysau.”

Mae’r sylwadau’n rhan o gyfweliad pen-blwydd ar raglen deldu BBC Wales ac mae yna deyrngedau i’r chwaraewr canol cae yn y rhan fwya’ o’r papurau mawr.

Mae Giggs wedi cymryd cyrsiau hyfforddi ac mae bellach yn chwaraewr-hyfforddwr gyda’i glwb Manchester United. Mae llawer hefyd yn dweud mai ef fydd rheolwr nesa’ Cymru.

“Dw i wedi ennill fy mathodynnau i gyd ac mae hynny wedi bod yn anodd wrth barhau i chwarae,” meddai. “Dw i jyst yn paratoi orau y galla’ i at yr hyn sydd i ddod.”

Un o’r sêr

Giggs oedd un o sêr Manchester United nos Fercher yn eu buddugoliaeth yn erbyn Bayer Leverkhusen yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop.

Mae wedi chwarae mwy na 950 o gêmau i’r clwb ac fe allai gael cytundeb blwyddyn arall ar ôl i’w gytundeb presennol ddod i ben.

Mae eisoes wedi ennill 13 o deitlau Uwch Gynghrair Lloegr ac wedi chwarae pob tymor ers ei gêm gynta’ yn 1991.