Abertawe 0–1 Valencia
Mae Abertawe’n chwilio am bwynt o hyd yng Ngrŵp A Cynghrair Ewropa er mwyn sicrhau eu lle yn y 32 olaf ar ôl colli yn erbyn Valencia ar y Liberty nos Iau.
Sgoriodd Daniel Parejo unig gôl y gêm i’r ymwelwyr wedi ugain munud a pherfformiad siomedig iawn a gafwyd ar y cyfan gan yr Elyrch wrth iddynt geisio taro’n ôl wedi hynny.
Daeth y gôl agoriadol i Parejo o ganlyniad i gamgymeriad gan Gerhard Tremmel yn y gôl i’r tîm cartref. Dyrnodd y bêl pan allai yn hawdd fod wedi ei dal hi, disgynnodd yn y diwedd i lwybr Parejo a daeth yntau o hyd i’r gornel isaf.
Valencia oedd y tîm gorau heb os yn yr hanner cyntaf ond ar wahân i ergyd beryglus Jonas o bell, ychydig iawn o gyfleoedd a grëwyd.
Ac yn wir, dylai fod Abertawe’n gyfartal ar yr egwyl wedi i’r eilydd Alvaro Vasquez roi’r bêl yng nghefn y rhwyd, ond cododd y dyfarnwr cynorthwyol ei luman er nad oedd y blaenwr yn agos at fod yn camsefyll.
Valencia oedd y tîm gorau ar ddechrau’r ail hanner hefyd a gwastraffodd Sofiane Feghouli gyfle da i ddyblu mantais ei dîm pan anelodd ergyd heibio’r postyn.
Bu rhaid aros tan y chwarter awr olaf i’r Elyrch ddangos unrhyw fygythiad.
Rhwystrwyd Jonathan de Guzman a Vasquez gan arbediad dwbl Alves Carreira, a phan wnaeth Vasquez guro’r gôl-geidwad ychydig funudau’n ddiweddarach roedd Jérémy Mathieu wrth law i glirio oddi ar y llinell.
Bydd rhaid i’r Cymry aros pythefnos felly cyn ceisio sicrhau eu lle yn y 32 olaf wrth deithio i’r Swistir i herio St Gallen.
Ymateb
Capten Abertawe ar y noson, Leon Britton:
“Maen nhw’n dîm da, tîm gyda phrofiad o chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr ond maen nhw’n mynd trwy gyfnod anodd ar hyn o bryd felly rydym braidd yn siomedig na wnaethom ni fanteisio ar hynny”
“Doeddem ni ddim ar ein gorau heno, doedd ein pasio ddim yn grêt, ond rhaid rhoi clod iddyn nhw am ein hatal ni rhag dod o hyd i’n rhythm heno.”
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Rangel, Taylor, Britton, Chico, Amat, Dyer (Hernández 66′), Shelvey, Bony (Alvaro 42′), Pozuelo, Lamah (De Guzmán 45′)
Cardiau Melyn: Rangel 5’, Alvaro 45’, Shelvey 86’
.
Valencia
Tîm: Alves Carreira, da Silva Pereira, Guardado, Parejo, Ruiz, Mathieu, Feghouli (Piatti 68′), Romeu, Canales (Fuego Martínez 85′), Gonçalves Oliveira (Postiga 77′), Bernat
Gôl: Parejo 20’
Cardiau Melyn: Guardado 52’, Gonçalves Oliveira 60’, Parejo 70’
.
Torf: 17,000