Mae Cymru wedi cwympo deuddeg safle i 56fed yn y byd yn netholiadau FIFA, ar ôl dim ond llwyddo i gael gêm gyfartal yn erbyn y Ffindir fis diwethaf.

Nhw yw’r wlad sydd wedi cwympo’r fwyaf o safleoedd allan o holl wledydd Ewrop – a dim ond tair gwlad arall yn y byd a welodd eu safle yn disgyn fwy na hynny.

Mae Cymru bellach ar 574 o bwyntiau, i lawr o 634 y mis diwethaf, ac wedi cael eu pasio gan wledydd yn cynnwys Iran, Awstria a Cuba.

Does dim newid ar y brig, gyda Sbaen yn gyntaf, a’r Almaen a’r Ariannin y tu ôl iddynt.

Disgynnodd Lloegr dri safle i 13eg, mae’r Alban yn codi dau safle i 33ain, Gweriniaeth Iwerddon yn cwympo saith safle i 67ain, a Gogledd Iwerddon yn aros yn ei hunfan yn 90fed.

Ar hyn o bryd Cymru yw’r 29ain tîm uchaf allan o 53 yn y detholiad pan mae’n dod i wledydd Ewrop – ond dyw hynny ddim yn debygol o effeithio’r detholiadau pan ddaw i ddewis pot y timau ar gyfer grwpiau rowndiau rhagbrofol Ewro 2016.

Nid yw UEFA, y corff sy’n rheoli pêl-droed yn Ewrop, wedi cadarnhau union strwythur y grwpiau rhagbrofol ar gyfer y bencampwriaeth honno yn Ffrainc yn 2016 hyd yn hyn, ond maen nhw’n defnyddio eu system dethol ei hunain fyddai’n gosod Cymru ym Mhot 4 allan o 6 ar hyn o bryd.

Bydd yr enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ar gyfer y grwpiau rhagbrofol hynny ym mis Chwefror 2014, gyda’r bencampwriaeth yn cael ei hymestyn o 16 i 24 tîm.

Caiff gemau’r grwpiau rhagbrofol eu chwarae rhwng Medi 2014 a Hydref 2015, gyda phencampwriaeth derfynol Ewro 2016 yn digwydd yn haf 2016.

Bydd dau dîm uchaf pob grŵp mwy na thebyg yn cyrraedd Ewro 2016, gyda’r timoedd sy’n gorffen yn drydydd yn wynebu gemau ail-gyfle.