Pablo Hernandez
Mae asgellwr Abertawe Pablo Hernandez yn gobeithio bod yn holliach ar gyfer eu gêm yng Nghynghrair Ewropa heno wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth.
Ac fe fydd yn achlysur arbennig i’r Sbaenwr gan mai Valencia, y gwrthwynebwyr, oedd y clwb ble y treuliodd wyth mlynedd fel chwaraewr cyn symud i Dde Cymru.
Mae Hernandez, a arwyddodd i Abertawe am swm record i’r clwb ar y pryd o £5.55miliwn, wedi dioddef nifer o anafiadau’r tymor hwn i’w glun a llinyn y gar, gan olygu mai chwe gêm yn unig y mae wedi chwarae.
Methodd y gêm gyntaf o’r grŵp i Abertawe yn erbyn Valencia i ffwrdd yn y Mestalla gydag anaf, pan gipiodd yr Elyrch fuddugoliaeth hanesyddol o 3-0, ond dywedodd yn y gynhadledd i’r wasg ei fod yn gobeithio chwarae rhan yn Stadiwm y Liberty heno.
“Ail gartref”
“Mae’r gêm yn un arbennig i mi oherwydd mai fy hen dîm ydyn nhw,” meddai Hernandez. “Fe fethais i’r gêm gyntaf yn y Mestalla ond fe es i i’r gêm gyda’r garfan ac roedd hi’n noson arbennig.
“Valencia yw fy ail gartref. Roeddwn i yno am wyth mlynedd ac fe fydd hon yn gêm arbennig i’m teulu a ffrindiau. Dwi wedi ymarfer yr wythnos hon a dwi’n gobeithio chwarae.”
Bydd Abertawe’n selio’u lle yn y rownd nesaf gyda buddugoliaeth dros Valencia heno.
Fodd bynnag, fe fydden nhw drwyddo doed a ddelo petai St Gallen yn methu ag ennill yn erbyn Kuban Krasnodar, gêm fydd yn dechrau’n gynharach heno nag un yr Elyrch.
Mae Valencia ar frig y grŵp ar hyn o bryd gyda naw pwynt, Abertawe un y tu ôl iddynt, St Gallen ar dri phwynt a Kuban ar ddwy.
Dim ond un gêm fydd gan Abertawe yn weddill o’r grŵp ar ôl hwn, yn erbyn St Gallen, ac felly fe fydden nhw’n gobeithio sicrhau eu lle yn rownd y 32 olaf cyn y gêm honno.
“Heno’n wahanol”
Ond dywedodd rheolwr Valencia Miroslav Dukic nad oedd canlyniad y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm ddim yn adlewyrchiad deg o’u safon nhw, a chwestiynu arddull rheolwr Abertawe Michael Laudrup yn slei bach.
“Fe fyddwn ni’n rhoi’n tîm gorau posib allan er mwyn ceisio ennill y grŵp,” meddai Dukic yn y gynhadledd i’r wasg ar ôl i’w dim gyrraedd Abertawe.
“Dwi ddim yn credu y gallwn ni ddod i lawer o gasgliadau o’r gêm gyntaf oherwydd cafodd y cerdyn coch [gynnar i amddiffynnwr Valencia Adil Rami] effaith fawr.
“Mae gan Abertawe arddull eu hunain ac maen nhw’n hoffi chwarae gyda’r bêl, ond maen nhw’n dioddef pan maen nhw hebddi. Mae hynny’n nodweddiadol o dimau Michael Laudrup.
“Ers y gêm gyntaf, rydyn ni wedi gwella yn ein chwarae, ein symudiad, ac rydyn ni’n chwarae’n well fel tîm.”