Ian Evans
Mae Toulon wedi cyhoeddi fod clo Cymru Ian Evans am ymuno â nhw yn yr haf pan fydd ei gytundeb gyda’r Gweilch yn gorffen.

Evans yw’r ail Gymro’r hydref yma i gadarnhau ei fod yn gadael un o ranbarthau Cymru am Ffrainc, yn dilyn cyhoeddiad Jonathan Davies ychydig wythnosau yn ôl ei fod yntau am ymuno a Clermont Auvergne ar ddiwedd y tymor.

Mae Evans ar hyn o bryd gyda charfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi i herio Awstralia brynhawn Sadwrn yn eu gêm olaf o Gyfres yr Hydref.

Ac mae’r gŵr 29 oed wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Toulon o haf 2014 ymlaen, gyda’r clwb yn cadarnhau’r newyddion mewn datganiad byr ar eu gwefan.

Bydd Evans yn ymuno a llu o Gymry sydd eisoes yn chwarae dramor yn Ffrainc, gan gynnwys James Hook a Lee Charteris yn Perpignan, Jamie Roberts a Dan Lydiate yn Racing Metro, Lee Byrne yn Clermont, a Ben Broster ac Aled Brew yn Biarritz.

Mae nifer o chwaraewyr amlycaf Cymru, gan gynnwys George North, Paul James a Craig Mitchell, bellach hefyd yn chwarae i glybiau yn Lloegr, gyda rhanbarthau Cymru’n ei chael hi’n anodd cystadlu gyda’r cyflogau uchel a gynigir i’r chwaraewyr.

Mae cytundebau nifer o sêr eraill Cymru gyda’u rhanbarthau, gan gynnwys Sam Warburton, Leigh Halfpenny, Bradley Davies ac Alun Wyn Jones, hefyd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, gydag ansicrwydd yn parhau dros a fydden nhw’n parhau i chwarae yng Nghymru.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod yn ystyried y posibiliad o gynnig cytundebau canolog i chwaraewyr Cymru er mwyn eu cadw gyda’r rhanbarthau, ond hyd yn hyn does dim wedi cael eu cynnig.