Bydd y canolwr Adam Ashley-Cooper a’r asgellwr Nick Cummins yn dychwelyd i dîm Awstralia am yn gêm yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Roedd y ddau chwaraewr ymhlith grŵp gafodd eu gwahardd gan yr hyfforddwr Ewen McKenzie am y gêm yn erbyn Yr Alban penwythnos diwethaf wedi iddyn nhw fynd ar sesiwn yfed hwyr yn Nulyn.

Bydd Ashley-Cooper yn symud i’r canol o’r asgell lle fu’n chwarae yn erbyn Iwerddon a bydd Cummins yn cymryd lle Chris Feauai-Sautia ar yr asgell.

Mae’r asgellwr, Joe Tomane, a ddechreuodd yn erbyn yr Alban, yn cadw ei le.

Mae pac y Wallabies yn aros yr un fath am y drydedd gêm yn olynol tra bod y maswr Quade Cooper yn ennill ei 50fed cap.

“Rydyn ni’n trin yr wythnos hon ychydig fel ein Rownd Derfynol, felly mae’n braf dod ag enwau mawr gyda llawer o brofiad i’r tîm,” meddai Ewen McKenzie.

“Rwy’n credu bydd pawb yn cael eu hysgogi gan amgylchiadau’r gêm a’r cyfle i chwarae Cymru ar eu tomen eu hunain.”

Tîm Awstralia: I Folau (NSW Waratahs); J Tomane (ACT Brumbies), A Ashley-Cooper (NSW Waratahs), C Leali’ifano (ACT Brumbies), N Cummins (Western Force); Q Cooper (Queensland Reds), W Genia (Queensland Reds); J Slipper (Queensland Reds), S Moore (ACT Brumbies), S Kepu (NSW Waratahs), R Simmons (Queensland Reds), J Horwill (Queensland Reds), S Fardy (ACT Brumbies), M Hooper (NSW Waratahs), B Mowen (ACT Brumbies, capten).

Eilyddion: T Polota-Nau (NSW Waratahs), B Robinson (NSW Waratahs), B Alexander (ACT Brumbies), K Douglas (NSW Waratahs), D Dennis (NSW Waratahs), N White (ACT Brumbies), M Harris (Queensland Reds), B Foley (NSW Waratahs).