Llyfr Nathan Lee Davies
Mae gŵr o Wrecsam wedi mentro ar daith fyddai’n herio unrhyw un – ac nid yn unig oherwydd tywydd garw gaeaf Cymru – o gwmpas holl feysydd chwarae Uwch Gynghrair Cymru.
Mewn llyfr newydd sy’n cael ei chyhoeddi yr wythnos hon, “Every Silver Lining has a Cloud”, mae Nathan Lee Davies yn sôn am y siwrnai a wnaeth yn 2011, gan deithio o gwmpas Cymru’n gwylio’r gemau.
Ond i Davies, sydd yn dioddef o anabledd Friedrich’s ataxia sy’n effeithio ar y system nerfau, roedd y daith yn llawn cymaint o siwrne i ddarganfod mwy am ei wlad ag yr oedd am wylio’r pêl-droed.
Argraffiadau o’r tu allan
Symudodd yn ôl i Gymru yn 2009, ar ôl byw yn yr Alban am y rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn. Ag yntau bellach yn 36 oed cyfaddefodd mai’r profiadau y mae’n eu trafod yn y llyfr oedd ei brofiadau cyntaf o ymweld â’r rhan fwyaf o’r meysydd hyn.
“Fe wnes i awgrymu’r syniad i Blackline Press ac roedden nhw’n frwdfrydig iawn am y syniad,” meddai Davies wrth sgwrsio gyda Golwg360. “Dwi wedi bod i nifer o feysydd chwarae yn Lloegr a’r Alban, ond cyn hyn doeddwn i ddim wedi bod o gwmpas Uwch Gynghrair Cymru.
“Dwi’n meddwl bod y safon yn codi o hyd. ‘Dy’ chi’n cael yr ymdeimlad ‘ma o gymuned wrth fynd i’r gemau yng Nghymru, ac fe gewch chi werth da am eich arian hefyd.”
Mae digon o hiwmor tywyll a thynnu coes i gael yn y llyfr – yn ogystal â rhybudd o gynnwys anaddas mewn mannau – rhywbeth mae Davies yn dweud oedd yn hanfodol i naws y llyfr, gan rybuddio bod peryg ei fod yn pechu nifer yn nhudalennau’r gyfrol!
Mae bellach yn gefnogwr brwd o’r Uwch Gynghrair – er nad yw’n cefnogi un tîm yn benodol – ac mae digon o straeon difyr ganddo am ei brofiadau, gan gynnwys cael gwlychfa yn y glaw yn Llanelli yn ystod un gêm pan oedd yn rhaid iddo wylio o du allan i’r eisteddle.
“Roedd camerâu Sgorio yno’r diwrnod hwnnw, ac ro’ ni’n medru dychmygu Malcolm Allen yn chwerthin am fy mhen i wrth fy ngweld i’n sefyll yno gyda’r ymbarél!”
Darganfod Cymru
Yn ogystal â thrafod ei argraffiadau o’r gemau y mae’n eu gwylio, mae Davies hefyd yn sôn yn y llyfr am ei fywyd yntau, ei anabledd a’i berthnasau, yn ogystal â’i ymgais i ail-gysylltu gyda Chymru a’r iaith.
“Cefais fy magu yn Wrecsam, ac fe symudais yn ôl yma o’r Alban yn 2009 ar ôl i’m mhriodas chwalu,” esboniodd Davies. “Roedd hi’n daith o hunan-ddarganfyddiad i mi, a chyfle i ddysgu mwy am Gymru a rhannau ohoni nad oeddwn i’n gyfarwydd.
“Dwi’n teimlo’n euog tu hwnt nad ydw i’n medru’r iaith, ac rwy’n sôn am hynny yn y llyfr – dwi wedi ceisio dysgu ond mae’n anodd. Ond dyw hynny ddim yn fy ngwneud i unrhyw llai Cymraeg.”
Bydd cyfweliad llawn gyda Nathan Davies yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos nesaf. Mae’r llyfr ‘Every Silver Lining Has A Cloud’ ar gael i’w brynu o wefan Blackline Press nawr.