James Hook yn chwarae i'w glwb, Perpignan
Puerto Madryn, prynhawn Mehefin 11eg, 2006, a haul gaeafol de America yn ffres yn yr awyr. Mae maswr amryddawn Clwb Castell-nedd yn camu i gae Stadiwm Raul Conti wedi deugain munud o chwarae i eilyddio canolwr Scarlets Llanelli, Matthew Watkins.
Ers i’r dyn main, chwe throedfedd ennill ei gap cyntaf a sgorio trosgais gyda llai na phum munud o’r gêm i chwarae, mae wedi hawlio 70 cap rhyngwladol a sgorio 346 pwynt, sydd yn ei roi yn drydydd yn rhestr sgorwyr pwyntiau rhyngwladol Cymru (tu ôl Neil Jenkins a Stephen Jones).
Mae James William Hook erbyn heddiw yn chwarae dros USA Perpignan yn ne Ffrainc, ac enillodd ei gap diwethaf ym mis Mawrth – ond nid yw wedi sgorio pwynt i’w wlad ers mis Mehefin 2012, mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Barbariaid.
Y ‘Catalan’ ar dân Wythnos ddiwethaf enwyd Hook yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau prawf mis Tachwedd ac mae’n hollol haeddiannol gan edrych ar ei ystadegau gyda’r clwb o Gatalwnia.
Mae wedi sgorio 102 pwynt yn ystod y 10 gem agoriadol ac ef yw prif sgoriwr pwyntiau pob cynghrair yn Ewrop o flaen Owen Farrell (Cynghrair Aviva, 78 pwynt) a Dan Biggar (Rabo Pro12, 92 pwynt).
Dros yr Haf arwyddwyd y maswr ifanc o Ffrainc (24 oed, 2 cap) Camille Lopez o Bordeaux-Begles gan Perpignan a’i llywydd Francois Riviere, ac o’r tu allan roedd yn ymddangos fel y byddai cyfleodd chwarae Hook yn lleihau.
Cefnwr y Catalaniaid
Ond mae Hook wedi dechrau fel cefnwr ym mhob gem ond un i’r Catalaniaid yn le Championnat ac mae wedi rhagori yn y safle, gyda’i hyfforddwr, Marc Delpoux, yn falch i weld bod Hook yn “blaguro fel cefnwr” – safle roedd yn chwarae yn aml dros y Gweilch pan oedd yn dysgu’r grefft o rygbi proffesiynol.
Gyda’i berfformiadau cyson mae Hook wedi arwyddo cytundeb newydd yn Stade Aime-Giral sy’n ymestyn tan 2017, heibio i’w ben-blwydd yn un ar ddeg ar hugain.
Mae cyn olwr y Gweilch ond wedi colli hanner can munud o dde gêm agoriadol Top 14 USAP ac mae Hook wedi trosi pum gic gôl ar hugain, sgorio deuddeg trosiad, chael un gôl adlam yn y fuddugoliaeth dros Toulouse ddiwedd mis Medi.
Pa safle dros Gymru?
Mae’r cyfryngau Cymreig wedi penderfynu dros Warren Gatland mai Leigh Halfpenny fydd yn gwisgo’r rhif crys pymtheg yn erbyn De Affrica, sy’n ddigon haeddiannol – mae’n ddiogel o dan y bêl uchel ac yn gwrthymosod yn ddestlus gan weld bylchau’n hawdd.
Ond gydag Alex Cuthbert wedi anafu ei bigwrn, beth am symud Chwaraewr Mwyaf Disglair taith y Llewod dros yr haf i’r asgell, gan roi Hook fel cefnwr?
Neu beth am, gyda’r Parisen newydd Jamie Roberts hefyd wedi’i anafu, roi cyfle i Hook i bartneru Jonathan Davies yn y canol?
Ond y syniad doethaf yn fy nhyb i fyddai ei ddechrau fel maswr. Er bod Hook wedi chwarae mwyafrif llethol o’i rygbi eleni fel cefnwr, mae wedi cael ei ddefnyddio gan Delpoux tair gwaith yn swyddogol fel maswr pan fo Camille Lopez wedi ei eilyddio, ac mae wedi gwisgo crys maswr Cymru dros ddeg tro ar hugain ers 2006, a dros bymtheg tro i USAP llynedd.
Y profiad a’r galon
Nid oes gan Rhys Patchell y profiad i wynebu rheng ôl gorfforol y Springboks, ac mae sgiliau trafod Dan Biggar gyda’i ganolwyr yn rhy amddiffynnol i fygwth llinell amddiffynnol a fydd yn cynnwys Jean De Villiers.
Er bod chwarae Rhys Priestland dros y Scarlets wedi bod yn galonogol eleni (gweler y gêm yn erbyn Harlequins yng Nghwpan Heineken) mae cwestiynau’n dal i fodoli am ei hyder yn y crys coch rhyngwladol.
Mae James Hook yn llawn hyder ac yn hapus yn ei chwarae ar arfordir deheuol Ffrainc, a gwastraff pur fydd hi pe bai Warren Gatland ddim yn rhoi cyfle ar y lefel uchaf i’r ‘Catalanwr’ yn ystod y mis sydd i ddod.