Rhys Hartley sydd yn edrych ymlaen at y gêm fawr rhwng Caerdydd ac Abertawe…
Ers i’r ddau dîm gwrdd ddiwethaf, ddwy flynedd a hanner yn ôl, daeth tro ar fyd i Gaerdydd ac i Abertawe.
Y tro hwnnw, gôl hwyr gan Bellamy enillodd y dydd i Gaerdydd yn Stadiwm Liberty ond aeth Abertawe yn mynd ymlaen i ennill dyrchafiad drwy’r gemau ail-gyfle.
Mae’r ddau wedi bod yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ers hynny, gydag Abertawe yn trechu Bradford y llynedd i gyrraedd Cynghrair Ewropa.
Darbi ar newydd wedd
Serch hyn, y newid mwyaf wrth gwrs yw newid lliw cit Caerdydd o las i goch gyda’r aderyn glas yn cael ei ddisodli gan ddraig.
Mae lot wedi cael ei ddweud am sut y mae’r timoedd yn cael eu rhedeg tu ôl i’r llen. Byddai hyd yn oed cefnogwr mwyaf brwd Caerdydd yn gwingo wrth glywed enw perchennog y clwb – Tan Sri Vincent Tan.
Mae ei arian wedi helpu Caerdydd i gyrraedd yr Uwch Gynghrair, gan ennill y Bencampwriaeth llynedd, ac mae’r clwb wedi gwario dros £30 miliwn eleni i geisio aros ar y lefel uchaf.
Ers newid lliw’r cit, fodd bynnag, mae Tan wedi llwyddo i greu sawl gelyn yn y brifddinas, gan wrthod cyfarfod â grwpiau cefnogwyr sydd eisiau trafod eu pryderon.
Gyda’r clwb dal mewn dyled syfrdanol, a’r ddyled yna’n cynyddu gyda llog o 7% yn daladwy i Tan, mae sôn y bydd y gŵr o Falaysia yn troi’r ddyled yna yn gyfranddaliadau yn y clwb.
Ond, os digwydd hyn, yna bydd Tan yn rheoli 95% o’r clwb a gyda phum dyn o Falaysia ar fwrdd y cyfarwyddwyr yn barod, mae’n anodd gweld unrhyw le i’r cefnogwyr neu eu cynrychiolydd.
Yn ddiweddar, mae e wedi llwyddo i wylltio’r rheolwr, Malky Mackay, wrth gael gwared ar Bennaeth Recriwtio’r clwb oedd wedi bod gyda Malky ers ei ddyddiau yn Watford – a phenodi ffrind ei fab, boi 24 mlwydd oed o Kazakstan yn ei le!
Esiampl yr Elyrch
I lawr yr M4 mae Abertawe yn dangos sut y gall pethau fod – esiampl nodedig o sut i reoli clwb.
Mae’r cadeirydd, Huw Jenkins, yn ŵr lleol ac yn gefnogwr selog o’r clwb ac mae Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr yn dal 20% o gyfranddaliadau’r clwb, a does neb yn cael prynu mwy na nhw.
Abertawe sydd hefyd a’r sefyllfa ariannol gorau yn yr Uwch Gynghrair – dim dyled a £5miliwn yn y banc.
Mae llwyddiant Abertawe yn y Gynghrair, y Cwpan ac ar y cyfandir yn dangos nad oes rhaid gwario gormod, na chael arian o dramor i lwyddo, tra bod modd cadw’r cefnogwyr, y rheolwr a’r chwaraewyr yn hapus.
Mae rhyw eironi bod y ‘Cochion’ am groesawu’r ‘Gwynion’ ddydd Sul, fel petai’r ddau yn eistedd ar naill ysgwydd a llall y gêm hon – Caerdydd fel y gydwybod ddrwg ac Abertawe fel y cydwybod glan.
Yn iach i bêl-droed Cymru?
Yn anffodus i Gymru, fodd bynnag, mae’n ymddangos mai dim ond tri Chymro fydd ar y maes yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul – Ashley Williams, Neil Taylor a Craig Bellamy.
Dim ond dau ohonyn nhw sydd yn dal i gynrychioli eu gwlad wedi i Bellamy orffen ei yrfa yng ngwlad Belg.
Yn y ddarbi ddwetha’ roedd chwe Chymro ar y cae, sy’n gwneud i mi ofyn a yw cael dau dîm yn yr Uwch Gynghrair yn wir o gymorth i Gymru? Mae’r arian sydd ar gael i’r ddau glwb nawr yn eu galluogi i brynu o dramor fel y gwelsom dros yr haf gyda Medel, Theophile-Catherine a Cornelius yn dod i Gaerdydd a Bony, Pozuelo a Cañas yn cyrraedd Abertawe.
Yn yr hir dymor mae’n rhaid gobeithio y bydd llwyddiant y ddau dîm yn annog cenhedlaeth newydd i chwarae pêl-droed a gobeithio y bydd y clybiau yn ariannu eu hacademïau er mwyn cael y gorau o’r Cymry ifanc.
Dim ond un chwaraewr o academi Caerdydd oedd yng ngharfan dan-21 diwethaf Cymru, a dim ond dau yn y tîm llawn – ond efallai ei bod hi’n anodd mesur llwyddiant fel hyn gan fod tîm cyntaf Caerdydd bellach yn chwarae ar y lefel newydd, uwch yma. Cawn weld!
Teimladau cymysg
Hon fydd y gêm ddarbi gyntaf i mi fethu ers 1998. Dwi wedi gwisgo glas ar y teras bob tro, ond ‘newch chi fyth fy ngweld i yn dilyn Caerdydd mewn coch. Bydd pnawn Sul yn anodd i mi. Cefnogi clwb sy’n amhosib i mi uniaethu â nhw neu gefnogi’r hen elyn.
Mike Dean fydd yn cael y pleser o ddyfarnu’r gêm. Yr un dyn a roddodd cic o’r smotyn amheus iawn i Gaerdydd yn y funud ola’ er mwyn cael gêm gyfartal yn y ddarbi olaf ym Mharc Ninian – a hynny ar ôl iddo gael ei daro gan geiniog o’r dorf! Pob lwc iddo. Mae hi’n siŵr o fod yn gêm danllyd arall.
Ar bapur, dylai Abertawe fod yn ffefrynnau ddydd Sul ond mae hi’n anodd iawn darogan
sgôr gêm ddarbi. Mae David Marshall wedi bod yn arbennig i Gaerdydd y tymor yma ond dydyn nhw ddim yn sgorio rhyw lawer.
Bydd gêm basio, amyneddgar Abertawe yn gorfodi Caerdydd i weithio’n galed i gael y bêl ac yna chwarae’r bêl yn hir fel y maen nhw wedi gwneud y tymor hwn. Felly, mae’r pen yn dweud gêm gyfartal isel ei sgôr – gydag un neu ddau o gardiau coch yn hwyr yn y gêm.
Gallwch ddilyn Rhys ar Twitter ar @HartleyR27.