Caerdydd sy'n croesawu Abertawe bnawn Sul
Brynhawn Sul, fe fydd Abertawe a Chaerdydd yn wynebu ei gilydd am y tro cynta’ erioed mewn gêm ddarbi yn yr Uwch Gynghrair.

Fe fydd Abertawe yn gwneud y daith fer ar hyd yr M4 i Gaerdydd ar gyfer y gêm sy’n mynd i dynnu sylw y ‘Byd Pêl-droed’.  Yn ôl cefnwr yr Elyrch, Neil Taylor, bydd dewder yn chwarae rhan allweddol yn y gêm.

‘‘Bydd yn rhaid i ni sefyll a rhoi cyfrif da ohonom ein hunain brynhawn Sul,’’ meddai Taylor.

‘‘Mae Caerdydd wedi gwneud yn dda ac mae Malky Mackay yn edrych yn reolwr da ac mae ei dîm bob amser yn gweithio’n galed,’’ ychwanegodd Taylor.

Caerdydd yn eu holau yn yr Uwch Gynghrair

Mae Caerdydd yn ôl yn yr Uwch Gynghrair am y tro cynta’ ers 51 o flynyddoedd. Ond, er iddyn nhw drechu Manchester City ar ddechrau’r tymor nid yw popeth yn gorwedd yn esmwyth yn y clwb ar y funud.

Yn ddiweddar fe gafodd Iain Moody a oedd yn gweithio’n agos i Mackay ei ddisywddo ac fe apwyntiwyd person ifanc hollol dibrofiad yn ei le.  Mae yna sibrydion heyfd y byddai Mackay yn gadael pe deuai yna gynnig da gan glwb arall.

Ar ôl colli i Chelsea ar ôl bod ar y blaen gyda gôl Jordon Mutch a gorfod brwydro’n galed i gael gêm ddi-sgôr yn erbyn Norwich y penwythnos diwethaf mae gan Mackay ddigon i feddwl amdano cyn dydd Sul.

Ar y funud mae Caerdydd yn ei chael yn anodd i sgorio.  Maent yn dod i ddisgwyl i’r blaenwr Andreas Cornelius a arwyddwyd yn ystod yr haf am arian mawr wneud unrhyw gyfraniadau gan ei fod wedi dioddef o anafiadau.

Heb amheuaeth byddai curo Abertawe yn tynnu dipyn o’r pwysau oddi ar ysgwyddau Mackay.

Awyrgylch arbennig

Er hyn i gyd mae cefnwr Abertawe Neil Taylor yn dweud y bydd yna awyrgylch arbennig yn ystod y gêm.  Yn ogystal a hyn mae Taylor yn ymwybodol bod ganddo brynhawn caled wrth geisio cadw Craig Bellamy yn dawel.

‘‘Mae’n chwaraewr arbennig o dda ac mae gennyf lawer o barch iddo.  Yr oeddwn yn flin ei weld yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.  A dweud y gwir nid oes gennyf syniad sut i’w gadw’n dawel,’’ dywedodd Taylor.

Mae Taylor yn cael y cyfle i chwarae yn safle’r cefnwr chwith gan fod Ben Davies yn dioddef o anaf i’w figwrn.  Yn ôl Taylor mae’r chwaraewyr a’r cefnogwyr yn edrych ymlaen at y gemau darbi.

Mae’n siwr y bydd Abertawe yn edrych i gyfeiriad Leon Britton a’i sgiliau i redeg canol y cae tra y bydd cefnogwyr Caerdydd yn disgwyl i Medel osod ei stamp cadarn yng nghanol cae y tîm cartref.

Gan fod arddull y ddau dîm yn hollol wahanol fe ddylai fod yn gêm arbennig.  Byddai buddugoliaeth i Gaerdydd yn ei gweld yn esgyn uwchben yr Elyrch ond mae’n siwr bod gan Michael Laudrup a’i dîm syniadau eraill.