Mae anaf y cyn brop rhyngwladol Duncan Jones wedi ychwanegu at broblemau y Gweilch cyn ei gêm yn erbyn Munster yn y Pro12 ddydd Sadwrn.

Mae’r rhanbarth heb wasanaeth un ar ddeg aelod o’r garfan gan eu bod ar ddyletswydd gyda Chymru ar gyfer gemau’r Hydref.

Er y byddan nhw heb nifer o’i chwaraewyr profiadol fe allai’r cefnwr Richard Fussell fod nôl ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd a gafodd yn erbyn Northampton.

‘‘Mae Richard wedi ymarfer drwy’r wythnos ac o gofio nifer y chwaraewyr sydd ar ddyletswydd rhyngwladol mae cael chwaraewr profiadol fel ef yn werthfawr iawn,’’ meddai hyfforddwr yr olwyr y Gweilch Gruff Rees.

Mae’r Gweilch yn credu y gallant gael canlyniad da yn erbyn Munster gan ei bod hwythau hefyd heb nifer o’i chwaraewyr dylanwadol.  Fe wnaeth y Gweilch godi i’r ail safle ar ôl cael pwynt bonws yn ei buddugoliaeth yn erbyn y Dreigiau.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Richard Fussell, Aisea Natoga, Jonathan Spratt (Capten), Andrew Bishop, Ben John, Matthew Morgan a Tito Tibaldi.

Blaenwyr – Marc Thomas, Scott Baldwin, Joe Rees, Lloyd Peers, James King, Joe Bearman, Sam Lewis a Morgan Allen.

Eilyddion – Matthew Dwyer, Nicky Smith, Dan Suter, Rhodri Hughes, Arthur Ellis, Tom Habberfield, Sam Davies, Hanno Dirksen.