Ulster, sydd yn y pedwerydd safle, fydd yr ymwelwyr i Barc y Scarlets nos Sadwrn.

O gofio iddyn nhw golli i Ulster yn Ravenhill fis Mai, a thrwy hynny fethu a chyrraedd y rownd derfynol, fe fydd yna ddigon o gymhelliad i dîm y Scarlets wneud yn dda, ar ôl cael dwy gêm gyfartal yn ddiweddar.

Gyda saith aelod o garfan y Scarlets ar ddyletswydd rhyngwladol, fe fydd chwe newid i’r tîm a gafodd gêm gyfartal oddi cartre’ yn erbyn Zebre.

Mewn a mas

Fe fydd Gareth Owen yn dychwelyd fel cefnwr, gyda Gareth Maule a Adam Warren yn y canol.  Mae Jordan Willimas wedi gwella ar ôl dioddef anaf i’w ysgwydd ac yn cymryd ei le ar yr asgell.

Kirby Myhill fydd yn dechrau fel bachwr a bydd Samson Lee yn safle’r prop pen tynn ar ôl pythefnos o waharddiad.  Yn y rheng ôl bydd Josh Turnbull yn symud i wisgo’r crys rhif saith, gyda Sione Timani fel wythwr.

Mae’r Capten Rob McCusker yn parhau i ddioddef o anaf i’w goes ac ôl derbyn triniaeth drwy’r wythnos bydd aelod o’r rheng ôl John Barclay ar y fainc.  Y prop profiadol Phil John fydd yn arwain y tîm a hynny ar ei 270 ymddangosiad dros y rhanbarth.

‘‘Mi fydd yr wythnosau nesaf yn gyfle i nifer o aelodau’r garfan wneud argraff dda.  Mae’n bwysig cael gêm fawr adref y penwythnos hwn yn dilyn perfformiad siomedig yn yr Eidal y penwythnos diwethaf,’’ meddai Simon Easterby, Prif Hyfforddwr y Scarlets.

Record dda Ulster

Mae Ulster wedi ennill ei chwe gêm olaf ymhob cystadleuaeth. Er hynny, fe gollon nhw i’r Dreigiau yn rownd gynta’ y Pro12 yn Rodney Parade y tymor hwn.

‘‘Mi fydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau,” meddai Simon Easterby. “Mae Ulster yn wrthwynebwyr cryf ac yn gystadleuol iawn.  Maent yn cael ei hyfforddi yn dda ac wedi dangos ei gallu yn Ewrop yn ystod yr wythnosau diwetha’.

“R’yn ni am ennill o flaen ein cefnogwyr ar Barc y Scarlets.”

Fe fydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Gareth Owen, Nick Reynolds, Gareth Maule, Adam Warren, Jordan Williams, Steve Shingler a Gareth Davies.

Blaenwyr – Phil John (Capten), Kirby Myhill, Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Aaron Shingler, Josh Turnbull a Sione Timani.

Eilyddion – Darran Harris, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Johan Synman, John Barclay, Aled Davies, Aled Thomas a Chris Knight.