Aelod o’r rheng ôl – Josh Navidi – fydd yn arwain tîm y Gleision brynhawn Sadwrn yn ei gêm yn erbyn Benetton Treviso yng nghystadleuaeth y Pro12.
Mae’r Prif hyfforddwr Phil Davies wedi gwneud deg newid i’r tîm a gollodd i Ulster yn Ravenhill y penwythnos diwethaf. Sam Hobbs, Kristian Dacey a Taufa’ao Filise fydd yn y rheng flaen, gyda Lou Reed a Filo Paulo yn yr ail reng.
Bydd Navidi yn arwain o’r rheng ôl gyda Andries Pretorius yn dychwelyd ar ôl anaf i chwarae fel blaenasgellwr ochr dywyll. Lewis Jones a Gareth Davies fydd yr haneri, gyda Chris Czekaj a Tom Williams y ddau asgellwr. Daw Dan Fish i fewn yn dilyn perfformiad da yng Nghynghrair y Principality.
‘‘Yr her sy’n ein wynebu yw dechrau fel y gwnaethom orffen yn erbyn Toulon – Pencampwyr Ewrop.
“Fe wanethom chwarae rygbi da gan ddangos penderfyniad a chymeriad. Dim ond wrth ailadrodd hynny fydd yn ddigon da wrth wynebu tîm talentog Benetton Treviso,’’ meddai Phil Davies.
‘‘Bydd y cyfnod hwn o’r tymor yn gyfle da i sawl chwaraewr greu argraff gan fod nifer o’r chwaraewyr ar ddyletswydd rhyngwladol. Yr ydym yn hapus iawn gyda dyfnder y garfan,’’ ychwanegodd Davies.
Tîm y Gleision
Olwyr – Dan Fish, Tom Williams, Richard Smith, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj, Gareth Davies a Lewis Jones.
Blaenwyr – Sam Hobbs, Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Lou Reed, Filo Paulo, Andries Pretorius, Josh Navidi a Robin Copeland.
Eilyddion – Marc Breeze, Thomas Davies, Benoit Bourrust, James Down, Rory Watts-Jones, Alex Walker, Aled Summerhill, a Harry Robinson.