Malky Mackay, rheolwr Caerdydd
Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Malky Mackay, wedi dweud na fydd digwyddiadau oddi ar y cae yn effeithio ar y paratoadau cyn y gêm ddarbi yn erbyn Abertawe dros y penwythnos.
Bydd yr hen elynion yn cyfarfod yn Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sul, ond mae’r Adar Gleision wedi cael cyfnod cythryblus pan mae pennaeth recriwtio  Mackay, Iain Moody, wedi cael ei ddiswyddo a’i ddisodli gan Kazakh Alisher Apsalyamov sy’n 23 mlwydd oed .
Ond dyw Mackay ddim yn credu y bydd y mater yn cael effaith ar y gêm ddydd Sul gan ychwanegu nad oes dim yn ei synnu yn y clwb rhagor.
Meddai: “Does dim yn fy synnu ond mae hynny’n rhywbeth y gall y prif weithredwr ddelio gyda. Mae fy ffocws i ar y tîm.”
Vlelikonja’n dod i’r brifddinas?
Gwrthododd Malky Mackay roi sylwadau ar adroddiadau bod  yr ymosodwr Etien Velikonja , a ymunodd a’r clwb yr haf diwethaf, wedi cael ei lofnodi gan y perchennog Vincent Tan heb drafod gyda’r rheolwr.
Nid fydd Velikonja yn rhan o garfan Caerdydd ddydd Sul.