Mae podlediad achlysurol Golwg360 yn ôl wrth i bawb edrych ymlaen at y ddarbin Gymreig fawr rhwng Caerdydd ac Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Gohebydd am-gyfrwng Golwg360, Iolo Cheung, a blogiwr newydd y gwasanaeth, Llywelyn Williams sy’n ymuno ag Owain Schiavone i drafod pethau pêl-droed yr wythnos.
Yn ogystal â’r gêm fawr, mae’r criw yn trafod y newyddion fod Chris Coleman yn ffefryn am swydd reoli wag Crystal Palace, ac yn ymateb i berfformiad arbennig Gareth Bale yn erbyn Sevilla nos Fercher.