Mike Phillips
Mae mewnwr Cymru, Mike Phillips, yn dweud ei fod yn canolbwyntio’n llwyr ar gêmau rhyngwladol yr hydref, er gwaetha’ cael y sac gan ei glwb.
Fe ddywedodd y byddai ef a’i asiant yn cael “llwyth o gyfarfodydd” ond bod ei feddwl ar hyfforddi’n dda a pherfformio’n dda tros Gymru.
“Pan fyddwch chi’n gwisgo crys Cymru, rhaid i chi berfformio ar eich gorau. Fydd dim llai na hynny ddim yn ddigon da,” meddai.
“Dyna’r safonau yr ydyn ni wedi eu gosod a dyna pam ein bod wedi gwneud yn eitha’ da yn ystod y blynyddoedd diwetha’.”
Mae wedi gwrthod rhoi sylwadau pellach ar gael ei sacio gan glwb Bayonne yn Ffrainc gan ei fod yn dwyn achos llys yn eu herbyn.
Mae gêm gynta’ Cymru yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn, 9 Tachwedd.