Mike Phillips
Mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley, yn credu bod chwarae yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2015 yn “darged realistig” i Mike Phillips.

Mae Mike Phillips ar hyn o bryd yn hyfforddi gyda Chymru cyn gêm agoriadol cyfres yr hydref yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm wythnos nesaf.

Cafodd y chwaraewr 31 mlwydd oed ei ddiswyddo gan y clwb o Ffrainc, Bayonne, yr wythnos hon yn dilyn honiadau ei fod wedi mynd i sesiwn dadansoddi fideo o dan ddylanwad alcohol.

Mae Mike Phillips yn dweud ei fod wedi clywed am ei ddiswyddiad ar ôl darllen amdano mewn papur newydd fore Llun.

Mae’r mewnwr, sydd ar hyn o bryd heb glwb, wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn Bayonne.

“Wrth edrych ymlaen dros y ddwy flynedd nesaf, byddem yn hoffi meddwl y bydd Mike Phillips ar gael ar gyfer Cwpan y Byd 2015,” meddai Rob Howley .

“Rwy’n credu bod hynny’n darged realistig i Mike ond er mwyn i hynny ddigwydd mae angen iddo chwarae gyda chlwb.

“O’n safbwynt ni, rydyn ni eisiau i Mike chwarae’n wythnosol.”

Mae Rob Howley wedi dilyn hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, a’r capten Sam Warburton wrth gefnogi Mike Phillips yn gyhoeddus er ei fod wedi cael ei siâr o broblemau oddi ar y cae yn ystod gyrfa ble mae o wedi ennill 77 o gapiau i Gymru ac wedi mynd ar ddwy daith gyda’r Llewod.