Ffostrasol
Collodd Ffostrasol gartref 3-1 yn erbyn Ail Dîm Bow Street dros y penwythnos i fynd allan o Gwpan Coffa Dai ‘Dynamo’ Davies.

Roedd ‘Tîm yr Wythnos’ Golwg360 yr wythnos yma yn gobeithio cyrraedd trydedd rownd y gwpan gyda buddugoliaeth, ar ôl iddyn nhw drechu Ail Dîm Aberaeron 2-1 ar ôl amser ychwanegol yn y rownd flaenorol.

Ac fe agorodd Ffostrasol y sgorio ar ôl wyth munud, gyda gôl gan y capten a’r chwaraewr canol cae Gethin Davies yn rhoi’r tîm cartref ar y blaen.

Unionwyd y sgôr ar ôl chwarter awr gyda gôl anffodus i mewn i’w rwyd ei hun gan Gethin Davies yn ei gwneud hi’n 1-1, cyn i Bow Street gipio’r fantais gyda gôl funudau cyn y chwiban hanner amser.

Ac ar yr awr fe ymestynnodd Bow Street eu mantais gyda gôl flêr wrth i nifer o chwaraewyr frwydro am bêl rydd yn y cwrt cosbi.

Gwthiodd Ffostrasol yn galed i ddod ’nôl mewn i’r gêm, gan greu nifer o gyfleoedd yn yr ugain munud olaf. Llwyddon nhw i roi’r bêl yn y rhwyd ddwywaith, ond ni chaniatawyd yr un ohonynt oherwydd trosedd llawio.

Ac yn y diwedd roedd tair gôl Bow Street yn ddigon i suddo’r tîm cartref, ac yn golygu mai nhw fydd yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf.

Mae Cwpan Goffa Dai ‘Dynamo’ Davies yn gystadleuaeth rhwng timau cynghreiriau Aberystwyth a Cheredigion, a gyda thîm Bow Street nawr yn yr wyth olaf fe fydden nhw’n edrych ar hwn fel cyfle am dlysau.

Yn ôl i’r gynghrair yw hi’r penwythnos yma i Ffostrasol, sydd yn bumed yn Ail Adran Cynghrair Ceredigion ar hyn o bryd ar ôl naw gêm.

Fe fydden nhw’n herio Ail Dîm St Dogmaels gartref ar Barc Troedyrhiw brynhawn ddydd Sadwrn.

Os ydych chi am i’ch tîm chi fod yn rhan o eitem ‘Tîm yr Wythnos’, cysylltwch â ni!

Tîm Ffostrasol:

Dafydd Adams; Karl Wilcox, Ian Ayres, Hywel Dafis, Dafydd Evans; Rhys Bevan, Alun Bowen; Gethin Davies, Owain Taylor; Gwynfor Bowen, Marc Bowen.

Eilyddion: Daniel Davies, Dyfan Davies