Rodney Parade
Y blaenasgellwr Lewis Evans fydd yn arwain y Dreigiau nos fory wrth iddyn nhw groesawu Leinster i Rodney Parade.

‘‘Mae Leinster o hyd wedi bod yn dîm arbennig, ac rydym yn hollol ymwybodol o’r her sydd o’m blaenau.  Mae’r dyfnder sydd yn eu carfan yn anhygoel,’’ meddai Evans.

Gyda’r clo Andrew Coombs a’r wythwr Toby Faletau wedi cael eu henwi yng ngharfan Cymru, bydd y Dreigiau yn dibynnu ar chwaraewyr llai profiadol i herio Leinster.

Mae hyfforddwr y Dreigiau, Lyn Jones wedi gwneud wyth newid i’w dîm.  Mi fydd Pat Leach yn dychwelyd wedi iddo wella o’i anaf i’w benelin ac yn rheoli’r canol cae gyda Ross Wardle.  Bydd Hallam Amos yn symud o’r asgell i safle’r cefnwr gyda Adam Hughes ar yr asgell.

Mi fydd Jason Tovey yn dychwelyd i Rodney Parade wedi iddo wella o’i anaf i’w ben a Richie Rees yn safle’r mewnwr.  Nid oes yna unrhyw newidiadau yn y rheng flaen, ond yn yr ail reng bydd Matthew Screech yn gwisgo crys rhif pedwar ac Adam Jones yn dechrau gan wisgo crys rhif pump.  Netani Talei fydd yn safle’r wythwr.

Mi fydd y gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru am 7.05yh.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Hallam Amos, Tom Prydie, Pat Leach, Ross Wardle, Adam Hughes, Jason Tovey a Richie Rees.

Blaenwyr – Owen Evans, Sam Parry, Dan Way, Adam Jones, Matthew Screech, Jevon Groves, Lewis Evans (Capten) a Netani Talei.

Eilyddion – Hugh Gustafson, Nathan Williams, Francisco Chaparro, Rob Sidoli, Ieuan Jones, Jonathan Evans, Kris Burton a Dan Evans.