Mae Dafydd W. Williams yn gobaithio am ail gyfle i’r Gleision…
Mae hi wedi bod yn gyfnod cythryblus i Gaerdydd ers y Nadolig; un ai nid yw’r rheolwr Mackay wedi llwyddo i drosglwyddo ei amcanion i’r garfan yn effeithiol, neu fod Mackay wedi llwyddo i wneud hynny ond bod y garfan wedi methu cyflawni beth oedd angen.
A beth oedd angen oedd pwyntiau. Be gaethon ni oedd cyfnod o gemau cyfartal siomedig, gan gynnwys gêm mor ddiflas rhwng CPD Caerdydd a Burnley fel bod un o fy nghyfoedion wedi tyngu llw i beidio ag ymweld â’r stadiwm yn Lecwydd am weddill y tymor yma man lleiaf. Ond beth am gêm yn Wembley tybed?…
Fel un sy’n ceisio gweld y byd ar ei ochr orau, ymwelais â Wembley yn ddiweddar er mwyn dod o hyd i’r tafarndai pêl-droed gorau sydd ar gael at eich sylw; roeddwn wedi synnu bod yr hen dafarn Willesden Junction wedi ei chau gyda dim ond y Sportsman o fewn cyrraedd o’r orsaf drenau yna felly. Gyferbyn â Tube Stonebridge yn Wembley ei hun – nid nepell o Ysgol Gymraeg Llundain – mae yna far Gwyddelig arall er mwyn torri’r syched, ond i ddweud y gwir ni fyddai dyn yn ymweld â Wembley oni bai fod yna reswm penodedig i fod yna…Gobeithio felly bod Malky yn gwybod sut i danio ei dîm erbyn hyn. Waeth faint o ffrindiau newydd sydd gan Malky o’i amser yn y brifddinas, byddent i gyd yn siomedig tu hwnt os taw gêm gynghrair bydd gêm olaf y clwb cyn yr haf.
Un rheolwr a oedd â pherthynas arbennig gyda’r cefnogwyr a’r chwaraewyr – os ma’ dyn yn credu Nathan Blake hynny yw – oedd Eddie May, a dw i’n ddigon hen i gofio ymweld â’r hen Barc yr Arfau gogyfer â gwylio gemau Cymru a chlywed cefnogwyr Caerdydd yn bloeddio ei enw a’u bod yn rhan o’i fyddin wallgof. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd taw côr-gân weddol adnabyddus ydoedd dros Brydain, ac yn cymryd yn ganiataol taw emyn o fawl unigryw i ‘Eddie May and his Barmy Army’ ydoedd. Gobeithio’n wir bod Eddie wedi glanio’n ddiogel lan lofft ac yn cynghori’r Uwch-Reolwr Mawr am y Cyfnod Pwysig Nesaf yma i Gaerdydd.
Gwrthwynebwyr nesaf Caerdydd dros y penwythnos fydd Leeds Utd, ac mae’r gêm gyfartal gafwyd yn gynnar yn y tymor oddi cartref yn awgrymu efallai bod yn driphwynt ar gael i Gaerdydd pe baent yn gallu cadw’r gôl yn fwy effeithiol, ac yn rhannu’r baich yna rhwng y deg sydd ar y maes yn ogystal â’r golgeidwad. Mae gan Gaerdydd draddodiad o gemau llwyddiannus yn erbyn y gwynion o ogledd Lloegr yn ddiweddar, a charwn i ddim pe bai’r hanes hynny yn dod i derfyn nawr; a bod y bechgyn yn y glas mor agos at gyrraedd y gemau ail gyfle. Mae gwobr fwyaf cyfoethog pêl-droed ™ yn aros amdanynt; er mor syfrdanol byddai cael nid un, ond dau dîm o Gymru yn Uwchgynghrair y Saeson! Does dim rhyfedd nad yw Ramsay yn meddwl gwisgo glas yr haf yma i dîm GB, rhag ofn bod hyn yn codi cythraul FIFA, er cymaint maent yn pregethu i’n bechgyn ni am eu dewis dros yr haf.
Ni fyddai’n deg i ysgrifennu am helyntion yr Adar Gleision yr wythnos hon heb gyfeirio at gôl wych Mark Hudson yn y fuddugoliaeth dyngedfennol yn erbyn Derby. Fel darllenais (ac ail-drydarais) ar y twitbeth, roedd un dyn wedi ceisio – a methu – sgorio o’i hanner ei hunan yn ystod Cwpan y Byd 1974. Ei enw? Pele. Os gewch chi gyfle dros y penwythnos, rhowch gynnig arni ar faes heb golgeidwad a gwrthwynebwyr. Nid peth hawdd mohono. Nid wyf yn credu y caf i’r cyfle, oni bai bod y plant yn fodlon fy ngwylio i’n trio. Efallai dyna pam mae Mark Hudson yn rhoi gymaint o glod i’w deulu ar ei drydarbeth ef; maen nhw’n fodlon mynd i mofyn y bêl bob tro iddo mae’n siŵr. Darllenais fod angen ailadrodd dawn 10,000 o weithiau cyn meistroli’r grefft at safon ryngwladol; efallai bydde’n syniad dechrau ein babi blwydd ar ei ymdrechion cychwynnol yn syth bin felly!
Ac os nad ydych chi wedi gweld y gôl eto – YouTube?
Ai dyna’r unig Tube i gefnogwyr Caerdydd eleni tybed?
Amser a ddengys – hir pob aros am Millertime!