Les Davies yw ymosodwr arwrol Bangor
Am yr ail flwyddyn yn olynol mae’r Seintiau Newydd a Bangor yn herio’i gilydd am y bencampwriaeth yng ngêm ola’r tymor yn Uwch Gynghrair Cymru yfory.

Flwyddyn yn ôl roedd angen gêm gyfartal ar y Seintiau oddi cartre’ ar Ffordd Farrar er mwyn cipio’r tlws, ond Bangor aeth â hi gyda buddugoliaeth o gôl i ddim.

Wrth i hanes ailadrodd ei hun b’nawn Sadwrn, bydd gêm gyfartal yn ddigon i’r Seintiau gipio’r gynghrair ar eu tomen eu hunain. Felly mae angen buddugoliaeth ar Fangor.

Digon diflas fu canlyniadau’r Dinasyddion ar eu cae newydd yn Nantporth, gyda’r Seintiau Newydd a Chastell Nedd yn ennill yno’n ddiweddar.

Roedd disgwyl i Fangor ildio’r gynghrair ar ôl y gêm gyfartal gartref yn erbyn Llanelli. Ond agorwyd cil y drws i’r Dinasyddion wrth i Lanelli sicrhau gêm gyfartal yn erbyn y  Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt.

Daeth Bangor yn ôl o dir y meirw a chipio buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Castell Nedd dros y Sul, sy’n golygu mai dim ond dau bwynt sydd ynddi gyda’r Seintiau ar 71 a’r Dinasyddion ar 69 o bwyntiau.

“Roeddwn i’n meddwl ei bod hi ar ben pan gafodd Bangor eu chwalu gartre’ gan y Seintiau Newydd a Chastell Nedd,” meddai’r sylwebydd Dylan Ebenezer.

“Mae’n rhaid eu canmol nhw’n enfawr am fod yn dal ynddi.”

Mae’r fantais seicolegol gan Fangor, meddai, ar ôl curo’r Seintiau ar ddiwrnod ola’r tymor diwetha’. Ond mae’n rhybuddio fod gan y Seintiau newydd y gallu i roi cweir go-iawn i unrhyw dîm yn y gynghrair, yn enwedig gartref ar eu cae gwair-gwneud.

“Mae’r cae yn fantais i’r Seintiau, ond mae hi’n gêm one off. Rhaid mynd am Fangor, dyna’r teimlad greddfol sydd gen i.

“Ond mae’r Seintiau yn gallu gorffen gêm mewn hanner awr. Roedd y ffordd wnaethon nhw chwalu’r Bala yng Nghwpan Cymru, maen nhw’n gallu bod tair gôl i fyny mewn hanner awr.

“Ond mae’n mynd i fod yn uffarn o awyrgylch.”

Yr ornest yn fyw ar Sgorio ar S4C, y gic gyntaf am 3.30 y p’nawn.