Yn dilyn y cyhoeddiad bod Gleision Caerdydd yn bwriadu penodi Cyfarwyddwr Rygbi, Aled Price sy’n trafod rhai o’r enwau posib ar gyfer y swydd…
Er gwaethaf perfformiadau diweddar y Gleision, a nifer y chwaraewyr sy’n gadael, dylai’r swydd newydd ddenu digon o ddiddordeb. Mae’r brifddinas yn un enwog am ei rygbi a bydd cyfle i weithio gyda sêr tîm Cymru fel Warburton, Roberts a Halfpenny.
Felly pwy sydd ar dop y rhestr? Dewch i ni gael gweld…
Phil Davies. Mae’n debyg taw cyn hyfforddwr y Scarlets yw’r ffefryn am y swydd. Bydd cefnogwyr yn cofio canlyniadau cymysg gan y Scarlets pan oedd y dyn o Flaendulais wrth y llyw. Rownd gynderfynol y Cwpan Heineken yn 2007 oedd uchafbwynt teyrnasiad dwy flynedd Davies.
Mae digon o brofiad gan Davies. Arweiniodd Leeds o’r pumed lefel o rygbi yn Lloegr i’r Cwpan Heineken ac enillodd y Cwpan Powergen mewn llai na deg mlynedd gyda’r clwb. Mae’n gweithio fel hyfforddwr y blaenwyr ar y foment efo Caerwrangon felly efallai bydd hynny’n broblem. Dangosodd ei allu yn ei dymor cyntaf gyda’r Scarlets ac efallai bod ei ddiswyddiad yn un eithaf hallt.
Tebygolrwydd o gael y swydd: 7/10
Mike Ruddock. Mae cyn-hyfforddwr Cymru wedi dweud byddai diddordeb ganddo. Hyfforddi tîm Iwerddon dan-20 yw swydd bresennol Ruddock, ac mae ffynonellau’n sôn am Ruddock fel hyfforddwr posib i dîm cenedlaethol Iwerddon ar ôl i gytundeb Declan Kidney ddod i ben blwyddyn nesaf. Felly byddai symud i’r brifddinas yn diffodd unrhyw bosibilrwydd o hynny. Mae’n debyg bod Ruddock yn awyddus oherwydd y byddai’n gyfle i ddechrau o’r dechrau, gyda nifer y chwaraewyr sy’n gadael.
Tebygolrwydd o gael y swydd: 5/10
Kingsley Jones. Mae cyn-hyfforddwr Sale wedi derbyn cytundeb pedair blynedd gan dîm cenedlaethol Rwsia. Serch hynny, dyw’r Cymro heb arwyddo’r cytundeb, felly os yw’r Gleision eisiau Jones mae’n debyg ei fod ar gael, am nawr. Mae gan Jones brofiad o weithio mewn tîm ac fe gafodd gyfnod llwyddiannus yn Sale gyda Philippe Saint-Andre. Fel Ruddock, mae Jones yn hoffi’r syniad o ddechrau o’r dechrau ac adeiladu tîm ei hun.
Tebygolrwydd o gael y swydd: 6/10
Sean Holley. Mae’n debyg bod Munster, o bawb, yn awyddus i siarad â Holley wrth i Tony McGahan symud nôl i Awstralia ar ddiwedd y tymor. Mae Holley’n deall y gêm ranbarthol yn well na neb wrth iddo weithio i’r Gweilch ers sefydlu’r rhanbarth, gan eu harwain tan ychydig fisoedd yn ôl. Nid oedd Holley yn hynod o boblogaidd gyda chefnogwyr y Gweilch. Serch hynny enillodd y gynghrair Magners wrth guro Leinster yn y rownd derfynol yn Nulyn, ac fe ddylai’r Gweilch fod wedi curo Biarritz yn wyth olaf Cwpan Heineken yn 2010.
Tebygolrwydd o gael y swydd: 3/10
Lyn Jones. Hyfforddwr mwyaf llwyddiannus hanes y gêm ranbarthol wrth iddo arwain y Gweilch i ddwy goron Gynghrair Magners/Celtaidd a churo Caerlŷr i gipio cwpan EDF yn 2007. Ar ôl cyfnod yn Abu Dhabi mae Lyn nawr yn hyfforddi’r Cymry yn Llundain, gyda chyfle i ennill dyrchafiad i Uwch gynghrair Aviva. Er ei holl lwyddiant mae wedi bod yn amlwg dros yr wythnosau diwethaf nad oes llawer o gariad rhwng Lyn a Peter Thomas. Dewis cyntaf y cefnogwyr ‘wy wedi siarad â nhw ond os bydd Peter Thomas dal yna, mae’r tebygolrwydd o gynnig y swydd i Lyn yn isel.
Tebygolrwydd o gael y swydd: 2/10
Mike Rayer. Mae cyn gefnwr Caerdydd yn hyfforddi Bedford ac wedi gwneud gwaith hynod o dda. Fel Lyn, mae gan ei dîm gyfle gwych i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn Lloegr. Pan adawodd Dai Young flwyddyn yn ôl roedd ei gyn-gyd chwaraewr a phennaeth presennol Cross Keys, Mark Ring, yn galw am Rayer i gael y swydd bryd hynny. Fel dyn lleol, bydd Rayer yn adnabod yr ardal a beth mae’n golygu i wharae dros Gaerdydd.
Tebygolrwydd o gael y swydd: 4/10
Shaun Edwards Byddai’n syndod i ddweud y lleiaf. Ers iddo adael ei swydd efo’r Wasps mae Edwards wedi dweud ei fod yn hoff o weithio bob wythnos, rhywbeth nad yw’n gwneud ar hyn o bryd. Bydd gwneud dwy swydd ddim yn broblem o ran amser, ond fe allai fod yn broblem o ystyried y ffaith y byddai’n gweithio gyda chwaraewyr y Gleision trwy’r amser, a phan ddaw’r amser i fynd nôl î’r tîm cenedlaethol efallai bydd tensiwn. À la Graham Henry â’r Llewod.
Tebygolrwydd o gael y swydd: 1/10
Mae yna enwau eraill hefyd. Graham Henry, Nick Mallett, John Plumtree a Shane Howarth i enwi rhai. Mae Peter Thomas wedi dweud bod rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus adnabod y gêm ranbarthol yn dda felly mae’n annhebygol y bydd rhywun o dramor yn cael y swydd.
Y peth pwysig yw, bod y Gleision yn cymryd eu hamser a gwneud y penodiad cywir. Mae’r Gweilch a’r Scarlets yn bygwth symud ymhell ar y blaen i dîm y brifddinas. Efallai, gyda’r dyn iawn bydd modd i’r Gleision gau’r bwlch – gorau po gynted.