Rob Howley
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi mai Rob Howley fydd prif hyfforddwr Cymru dros yr haf tra bod Warren Gatland yn gwella yn Seland Newydd, ar ôl cael codwm yr wythnos ddiwethaf.

Mae Cymru’n cwrdd â’r Barbariaid yng Nghaerdydd ac yn teithio i Awstralia i wynebu’r Walabîs ym mis Mehefin, a chyn-fewnwr Cymru Rob Howley fydd â’r cyfrifoldeb dros baratoi a dewis y garfan ryngwladol.

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, fod yr undeb wedi ystyried y cyngor meddygol a gafodd Warren Gatland a phwysigrwydd cyfres yr haf yn Awstralia pan fydd Cymru’n chwarae tri phrawf rhyngwladol ac un gêm yn erbyn rhanbarth y Brumbies.

“Rydym wedi gweithredu’n gyflym i sicrhau fod pawb yn glir am y sefyllfa dros yr wythnosau sydd i ddod,” meddai.

“Mae Warren wedi cymryd cyngor meddygol ac yn cytuno mai apwyntio Rob yn hyfforddwr dros-dro yw’r peth gorau ar gyfer y garfan.

“Gall Warren ganolbwyntio nawr ar wella’i hun cyn ei fod e’n parhau gyda’r gwaith ardderchog mae e eisoes wedi’i gyflawni, a gall Rob ddefnyddio’r cyfle i ddatblygu’n hyfforddwr ar y safon uchaf.”

Ychwanegodd Roger Lewis fod “apwyntio Rob yn arwyddocaol iawn ar gyfer ein rhaglen o ganfod olynydd yn y tymor hir.”

‘Wedi bod yn anodd’

Ni fydd Warren Gatland yn cael llawdriniaeth ar ei anafiadau eto gan fod y meddygon am roi amser iddo wella. Mae’r anaf i’w sawdl dde yn “ddifrifol” ac mae’n annhebyg o fedru dal pwysau cyn mis Mehefin.

“Mae wedi bod yn anodd derbyn y cyngor,” meddai Warren Gatland, “ond mae’n fy ngwneud i’n fwy penderfynol nag erioed i ddod yn ôl i’r gwaith gyda Chymru a pharatoi at gemau’r hydref yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia.”