Ched Evans a Clayton McDonald
Mae pêl-droediwr sydd wedi ei gyhuddo o dreisio merch mewn gwesty wedi gwadu iddo ei “defnyddio” ar gyfer ei “foddhad” ei hun.

Mae  Ched Evans, 23, sy’n enedigol o Lanelwy, ac yn ymosodwr Cymru a Sheffield United, a  Clayton McDonald, 23,  sy’n chwarae i Port Vale,   yn gwadu treisio’r ddynes, ond mae’r ddau yn cyfaddef cael rhyw gyda hi.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yng ngwesty’r Premier Inn ger Y Rhyl ar 30 Mai’r llynedd.

Mae’r ddynes, oedd yn 19 ar y pryd, wedi dweud wrth yr heddlu nad yw’n cofio dim am y digwyddiad ac mae’r erlyniad yn dadlau ei bod hi’n rhy feddw i gydsynio i gael rhyw gyda’r ddau.

Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Caernarfon heddiw, roedd Evans, o Dde Swydd Gaerefrog, wedi gwadu honiadau’r erlyniad bod y ferch unai’n anymwybodol, yn rhannol anymwybodol, neu nad oedd mewn cyflwr i gydsynio i gael rhyw gyda’r ddau.

Awgrymodd John Philpotts ar ran yr erlyniad bod Evans a McDonald wedi “defnyddio’r ferch ar gyfer eich boddhad eich hunain.”

“Na, dydy hynny ddim yn wir,” atebodd Evans.

Pan ofynnwyd iddo am gyflwr y ferch atebodd Evans: “Doedd hi ddim yn feddw iawn. Roedd hi wedi cael diod ond doedd hi ddim yn feddw gaib.”

Dywedodd John Philpotts bod Evans wedi gadael y gwesty trwy allanfa dân “am eich bod yn gwybod beth roeddech chi wedi ei wneud.”

Gwadu hynny wnaeth Evans gan ddweud ei fod eisiau gadael yr ystafell rhag ofn bod ei gariad yn ei ffonio.

Clywodd y llys yn gynharach bod Evans wedi gwahodd McDonald ac eraill am noson allan yn y Rhyl, lle mae ei fam yn byw, ar 29 Mai.

Gan nad oedd digon o le yn nhŷ ei fam roedd Evans wedi llogi stafell i McDonald yn y Premier Inn gerllaw lle honnir bod y ferch wedi cael ei threisio. Clywodd y llys bod McDonald wedi cwrdd â’r ddynes ar y stryd ac wedi mynd â hi nôl i’r gwesty i gael rhyw gyda hi.

Fe anfonodd neges destun at Evans i ddweud bod “ganddo ferch” a death Evans i’r gwesty yn fuan wedyn.

Dywedodd Evans ei fod wedi mynd i’r gwesty i ddweud wrth McDonald bod un o’i ffrindiau wedi cael ei arestio. Roedd yn cyfaddef iddo “dwyllo’r” derbynnydd yn y gwesty i gael allwedd i’r ystafell ac fe aeth i mewn i’r ystafell a gwylio McDonald a’r ferch yn cael rhyw.

Dywedodd Evans eu bod yn ymwybodol ei fod yno a’i fod wedi eu gwylio’n cael rhyw am oddeutu 10/20 eiliad pan ofynnodd McDonald a all ei ffrind “ymuno â nhw”.

“Fe edrychodd hi arna’i ac fe ddywedodd hi ‘Iawn’,”meddai Evans.

Dywedodd ei fod wedi gwylio’r ddau am “funud neu ddau” cyn i McDonald godi o’r gwely a thynnu’r llenni am fod sŵn chwerthin yn dod o’r tu allan lle’r oedd brawd Evans a’i ffrind yn gwylio drwy’r ffenest.

Dywedodd bod McDonald wedi gwylio’r ddau yn cael rhyw am gyfnod cyn gadael yr ystafell.

“Pan adawodd yr ystafell naethon ni stopio cael rhyw,” meddai Evans wrth y rheithgor.

Gofynnodd John Philpotts a oedd e a McDonald wedi “gorfodi’r” ferch i gael rhyw.

“Naddo,” meddai Evans.

Dywedodd Evans ei fod wedi clywed am y cyhuddiadau pan gafodd neges destun gan ei fam y dydd Mawrth canlynol yn dweud bod yr heddlu yn “holi ei frawd bach” am yr hyn ddigwyddodd yn y Premier Inn.

Dywedodd iddo ddweud wrth ei fam “beth oedd wedi digwydd” ac yna wedi mynd i dŷ ei gariad am ei fod yn “ofni’r gwaethaf”.

“Pam oeddech chi’n ofni’r gwaethaf?,” gofynnodd John Philpotts.

“Am fod CID yn holi fy mrawd bach,” meddai Evans.

“Beth oedd gennych chi i boeni amdano?” gofynnodd John Philpotts.

“Dim byd,” meddai Evans.

Dywedodd Evans nad oedd ganddo fwriad y noson honno “i gael merch”, gan ychwanegu nad oedd yn cofio ffonio McDonald ar ôl iddo gael neges destun ganddo yn dweud bod “ganddo ferch” ac nad oedd yn cofio’r daith mewn tacsi i’r gwesty gyda’i frawd a’i ffrind.

Mae’r achos yn parhau.