Deiniol Jones
Mae ail reng Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ymddeol o chwarae rygbi.
Dywedodd Deiniol Jones nad oedd ei ysgwydd wedi gwella’n ddigonol i adael iddo barhau i chwarae, a’i fod nawr yn edrych ymlaen at ganolbwyntio ar ei fusnes trin dŵr. Sefydlodd Ymgynghorwyr Dŵr J&D gyda phartner busnes bum mlynedd nôl a dywedodd fod “pethau’n mynd yn eu blaen yn dda iawn.”
“Ry’n ni’n gweithio ar draws Prydain ac mae’r cwmni’n datblygu. Mae’n her i fi a dwi’n edrych ymlaen at daflu fy hun i newn i’r gwaith,” meddai.
‘Iachach i beidio troi’n hyfforddwr’
Chwaraeodd yr ail reng o Aberteifi 175 o weithiau i’r Gleision, a fe oedd y chwaraewr cyntaf i gyrraedd 100 o gemau dros y rhanbarth. Er y profiad sydd ganddo dywedodd nad oedd diddordeb ganddo mewn troi at hyfforddi.
“I fod yn hyfforddwr da mae’n rhaid bod yn ymroddedig tu hwnt. Byddai parhau gyda’r dwyster yna yn syth ar ôl gorffen chwarae ddim yn beth iach. Mae’n iachach cymryd cam yn ôl a gwneud rhywbeth gwahanol mewn bywyd.”