Can niwrnod cyn i seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd gael ei gynnal yn Llundain, mae ’na addewid o £9 miliwn i chwaraeon cymunedol yng Nghymru heddiw.
Mae’r arian yn rhan o strategaeth dair blynedd Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, gyda’r arian yn dod o gronfa’r Loteri.
Mae Chwaraeon Cymru yn dweud mai pobol ifanc a chlybiau chwaraeon fydd yn elwa o’r arian, ac fe fydd yn herio’r sector chwaraeon i gael mwy o bobol i gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Mae’r £9 miliwn ychwanegol yn golygu y bydd Chwaraeon Cymru yn cyfrannu cyfanswm o bron i £32 miliwn y flwyddyn at chwaraeon cymunedol yng Nghymru.
“Mae’r Strategaeth Chwaraeon Cymunedol yn datgan blaenoriaethau clir i alluogi newid dramatig yn ystod a nifer y bobl sy’n ymwneud â chwaraeon lleol,” meddai Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Laura McAllister.
“I’r diben hwn, rydyn ni’n buddsoddi £9 miliwn ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf, o’n cyllideb Loteri Genedlaethol, mewn chwaraeon cymunedol. Mae’r nod yn syml – cael pob plentyn yng Nghymru, yn ddieithriad, i wirioni ar chwaraeon am oes,” meddai.
‘Chwaraeon yn cynnig cyfle’
Wrth lansio strategaeth newydd Chwaraeon Cymru heddiw, dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Huw Lewis, y dylai “pob person ifanc gael cyfle i ddisgleirio a chael cyfle hefyd i gyfrannu’n gadarnhaol at ei gymuned, waeth beth yw ei amgylchiadau.
“Gall chwaraeon fod yn allweddol o ran helpu pobl ifanc a theuluoedd i ymdopi â sefyllfaoedd anodd a’u goresgyn, ac i geisio dyfodol gwell.
“Rydw i’n mawr obeithio y bydd y strategaeth hon yn chwarae ei rhan mewn helpu i leihau ac atal tlodi drwy oresgyn rhwystrau a chael gwared ar anghydraddoldeb,” meddai Huw Lewis.
‘Angen mwy na chwaraeon yn yr ysgol’
Mae Laura McAllister yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd y strategaeth newydd yn hyrwyddo chwaraeon tu hwnt i gyrtiau’r ysgol.
“Rydyn ni eisiau gweld dwy awr o AG o safon uchel i bob plentyn, bob wythnos ac mae’n rhaid ategu hyn gyda thair awr ychwanegol o chwaraeon allgyrsiol neu gymunedol,” meddai.
“Mae ysgolion yn chwarae rhan allweddol mewn datblygu a chynnal hoffter plant o chwaraeon felly mae’n rhaid i ni sicrhau bod y sylfeini hyn yn rhai cryf.”
Ond mae’n dweud bod yn rhaid i’r “cyswllt rhwng chwaraeon ysgol, gweithgarwch allgyrsiol a gweithgarwch cymunedol fod yn llawer cadarnach.”
Yn ôl Laura McAllister, mae angen defnyddio’r “arbenigedd ac adnoddau” o fewn sefydliadau addysg i osod y seiliau ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon tu hwnt i amgylchfyd yr ysgol.
“Os gallwn ni gyflawni hyn yn gyffredinol ledled Cymru, byddai’n cael effaith fawr iawn ar ein dyhead ni i gael pob plentyn yng Nghymru wedi gwirioni ar chwaraeon am oes,” meddai.