Wayne Hennessey
Mae’n ymddangos bod golwr Cymru Wayne Hennessey wedi chwarae ei gêm olaf dros Wolverhampton Wanderers.

Cafodd y golwr o Ynys Môn anaf i’w ben-glin wrth chwarae yn erbyn Sunderland ddydd Sul,  ac mae’r Press Association yn adrodd ei fod yn debygol o fod allan o’r gêm am dri neu bedwar mis.

Mae Wolves wedi cael ymgyrch sâl eleni yn Uwchgynghrair Lloegr ac ar waelod y tabl. Os byddan nhw’n gostwng i’r Bencampwriaeth mae disgwyl bydd diddordeb gan glybiau eraill yn Wayne Hennessey gan fod y golwr yn un o’r ychydig o chwaraewyr Wolves sydd wedi creu argraff eleni.

Mae Hennessey wedi chwarae 58 gêm yn olynol i Wolves yn yr Uwchgynghrair a Dydd Sul bydd ail olwr Wolves yn cael cyfle prin i chwarae. Cafodd Dorus de Vries ei arwyddo’r llynedd o Abertawe ond dim ond unwaith mae e wedi chwarae yn ystod 2012, a hynny i ail dîm Wolves.