Casnewydd 0-0 Darlington

Mae dyfodol Casnewydd yn Uwch Gynghrair y Blue Square yn ddiogel yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Darlington ar Barc Sbyty nos Fawrth. Er nad ydynt yn fathemategol sâff eto mae’r pwynt yn eu rhoi mewn safle hynod addawol.

Cafodd Darryl Knights a Lee Baker gyfleoedd i roi’r tîm cartref ar y blaen tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf ond llwyddodd gôl-geidwad Darlington, Jordan Pickford, i’w hatal.

Ceisiodd Nat Jarvis ei lwc ar ddechrau’r ail hanner ond roedd Pickford yn effro eto. Yna, bu rhaid i’r golwr cartref, Karl Darlow, atal ymdrechion Paul Johnson, Danny Lambert a Clark Keltie wrth i Darlington gryfhau at ddiwedd y naw deg munud.

Ond daliodd Casnewydd eu gafael ar y pwynt, pwynt sydd fwy neu lai yn ddigon i sicrhau y byddant yn chwarae yn Uwch Gynghrair y Blue Square eto’r tymor nesaf.

Mae Casnewydd yn aros yn yr ugeinfed safle er gwaethaf y pwynt ond maent chwe phwynt yn glir o Hayes yn yr unfed safle ar hugain bellach. Mae gan Hayes ddwy gêm ar ôl felly fe allant ddal Casnewydd gyda chwe phwynt ond mae gwahaniaeth goliau’r tîm o Gymru 22 gôl yn well! Wrth gwrs, bydd hynny yn amherthnasol os all Casnewydd gipio un pwynt yn unig o’u tair gêm olaf.