Hudson - Dipyn o gôl
Caerdydd 2-0 Derby

Mae Caerdydd gam yn nes at sicrhau eu lle yn safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth dros Derby yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth. Sgoriodd Mark Hudson gôl wych i gipio’r tri phwynt i’r Adar Gleision wedi i Joe Mason roi mantais gynnar iddynt.

Doedd Caerdydd ddim ar eu gorau trwy gydol y gêm ond roeddynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i gôl Mason. Bu bron i Kenny Miller i sgorio ond tarodd ei ergyd ef yn erbyn y postyn cyn dod yn ôl at Mason a llwyddodd yntau i guro Frank Fielding yn y gôl i’r ymwelwyr.

Yn y pen arall, bu rhaid i David Marshall fod ar flaenau’i draed i gynnal y fantais bum munud cyn yr egwyl wrth iddo arbed ymdrech Jake Buxton.

Parhau i fygwth a wnaeth Derby ar ddechrau’r ail hanner ond dyblwyd mantais y tîm cartref diolch i gôl anhygoel Hudson toc wedi’r awr. Gwelodd yr amddiffynnwr canol fod gôl-geidwad yr ymwelwyr, Fielding, oddi ar ei linell ac er ei fod yn ddwfn yn ei hanner ei hun penderfynodd ergydio gan ddod o hyd i gefn y rhwyd. Gôl a oedd yn haeddu ennill unrhyw gêm.

Cafodd Marshall ei gadw’n brysur yn yr hanner awr ddiwethaf ond llwyddodd i gadw llechen lân trwy arbed cynnigion Jeff Hendrick, Steve Davies a John Brayford.

Mae pedwar pwynt yn gwahanu Caerdydd yn y chweched safle a Middlesbrough sy’n seithfed bellach wedi iddynt hwy gael gêm gyfartal yn erbyn Doncaster. Dylai dau bwynt felly o’r ddwy gêm olaf yn erbyn Leeds a Chrystal Palace fod yn ddigon i gadw gobeithion yr Adar Gleision o ddyrchafiad yn fyw.