Ched Evans a Clayton McDonald
Mae pêl-droediwr yn gwadu treisio dynes mewn gwesty gan honni nad oedd wedi ei gorfodi i gael rhyw.
Mae Clayton McDonald, 23, sy’n chwarae i Port Vale, a Ched Evans, 23, sy’n enedigol o Lanelwy, ac yn ymosodwr Cymru a Sheffield United, yn gwadu treisio’r ddynes.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yng ngwesty’r Premier Inn ger Y Rhyl fis Mai’r llynedd.
Clywodd y llys bod y ddau wedi cyfaddef cael rhyw gyda’r ddynes ar ôl i McDonald, o Sir Gaer, gwrdd â hi ar stryd yn ystod noson allan gyda’i ffrind Evans o Dde Swydd Gaerefrog.
Mae’r ddynes, oedd yn 19 ar y pryd, wedi dweud wrth yr heddlu nad yw’n cofio dim am y digwyddiad ac mae’r erlyniad yn dadlau ei bod hi’n rhy feddw i gydsynio i gael rhyw gyda’r ddau.
Roedd Evans, oedd hefyd yn rhoi tystiolaeth, wedi dweud wrth yr heddlu bod y ddynes wedi cytuno i gael rhyw gydag o a McDonald.
Yn ôl Evans, doedd y ddynes ddim yn ymddwyn fel petai hi wedi meddwi.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon heddiw bod Evans, McDonald a’u ffrindiau wedi mynd i siop cebabs ar ôl ymweld â sawl bar yn ystod y noson.
Roedd ’na ffrwgwd yn y siop ac fe benderfynodd McDonald, oedd wedi “meddwi ychydig”, fynd nôl i’r gwesty mewn tacsi.
Dywedodd McDonald ei fod wedi cwrdd â’r ddynes wrth iddo chwilio am dacsi.
“Nes i ddeud ‘haia, lle wyt ti’n mynd?’ ac fe ddywedodd hi, ‘Lle wyt ti’n mynd?’. Nes i ddeud mod i’n mynd nôl i’r gwesty ac fe ddywedodd hi, ‘Dwi’n dod efo ti,’” meddai McDonald.
Pan ofynnodd Lloyd Morgan, ar ran yr amddiffyniad, sut roedd y ddynes yn ymddangos dywedodd McDonald ei bod hi’n “cerdded yn iawn” ac roedd yn gallu deall beth roedd hi’n ei ddweud.
Ar ôl cyrraedd y gwesty, meddai, aeth y ddau i’w ystafell. Pan ofynnodd Lloyd Morgan a oedd wedi ei gorfodi i wneud unrhyw beth atebodd, “Na.”
Dywedodd McDonald bod y ddau wedi dechrau cael rhyw a’i bod hi’n ymddwyn “fel petai hi’n mwynhau ei hun.”
Ar ôl tua 10 munud fel sylwodd bod rhywun wrth y ffenestr.
Roedd y rheithgor wedi clywed yn gynharach bod Jack Higgins, cyfaill i’r ddau, a Ryan Roberts, brawd Evans, wedi bod yn gwylio drwy’r ffenestr.
Roedd recordiad fideo ar ffôn Jack Higgins yn dangos ei fod wedi bod yn ffilmio neu’n ceisio ffilmio’r digwyddiad.
“Es i dynnu’r llenni a nes i sylwi bod Ched wedi dod mewn i’r ystafell,” meddai.
Fe ofynnodd i Evans i “ymuno â nhw”.
“Nes i ofyn, ‘geith o ymuno â ni?’ ac fe ddywedodd hi ‘Iawn’,” meddai.
Roedd McDonald wedi gwylio Evans a’r ddynes “am ychydig” a dywedodd ei bod hi’n “mwynhau ei hun.”
Aeth i’r ystafell ymolchi ac yna fe adawodd yr ystafell. “Doedd dim llawer o bwynt i mi fod yno. Dydw i ddim yn un am wylio,” meddai.
Wrth esbonio sut yr oedd wedi gofyn i rywun yn y dderbynfa i sicrhau bod y ddynes yn cyrraedd adre, dywedodd: “Doedd ganddi ddim bag na ffôn ac roeddwn i’n gwybod na fyddai hi’n gallu ffonio rhywun i ddod i’w nôl.”
Fe gwrddodd ag Evans tu allan i’r gwesty ac fe gerddodd y ddau i dŷ mam Evans, meddai.
‘Ffrindiau da’
Dywedodd McDonald wrth y rheithgor ei fod wedi cwrdd ag Evans pan oedden nhw tua 10 oed ac yn rhan o academi ieuenctid Manchester City.
Yn ystod y cyfnod hwn roedd y ddau wedi rhannu tŷ ym Manceinion am oddeutu 10 mlynedd ac wedi dod yn “ffrindiau da iawn” ac yn aml yn mynd ar wyliau a chymdeithas gyda’i gilydd.
Wrth gael ei groesholi, cafodd ffilm teledu cylch cyfyng ei dangos i McDonald lle’r oedd y ddynes i’w gweld yn baglu mewn siop cebab ym mhresenoldeb McDonald ac Evans.
Ar ôl i’r ddynes faglu, roedd Evans fel petai wedi camu drosti gan weiddi tuag at McDonald a’u ffrind Javan Vidal, sydd hefyd yn bêl-droediwr.
Gofynnodd John Philpotts, ar ran yr erlyniad, os oedd McDonald yn credu bod ei symudiadau fel rhai person normal?
Dywedodd McDonald efallai ei bod hi’n cerdded felly “am ei bod yn gwisgo sodlau uchel.”
Fe wadodd McDonald ei fod wedi bod yn chwilio am ferch y noson honno.
“Doeddwn i ddim mewn sefyllfa lle’r oedd yn rhaid i m i fynd allan i gael merch, roedd y sefyllfa jyst wedi codi,” meddai.
Mae McDonald yn gwadu ei fod wedi bwriadu cael rhyw gyda mwy nag un ferch y noson honno, ond roedd yn cyfaddef ei fod ef ac Evans wedi “rhannu” merch yn y gorffennol.
Mae’r achos yn parhau.