Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n chwilio am gyfarwyddwr rygbi newydd “sydd â dealltwriaeth ragorol o rygbi yng Nghymru” ynghyd â phrofiad blaenorol o reoli tîm.
Mae prif weithredwr y Gleision wedi talu teyrnged i’r hyfforddwyr presennol, Gareth Baber a Justin Burnell, ond dywedodd ei bod hi wedi bod yn “dymor cyntaf anodd iddyn nhw”.
Ychwanegodd Richard Holland: “Mae’r ddau hyfforddwr wedi gwneud jobyn arbennig wrth ddatblygu chwaraewyr o safon fyd-eang megis Sam Warburton, Jamie Roberts, Leigh Halfpenny a Bradley Davies tra roedden nhw’n hyfforddi yn ein hacademi ni.
“Maen nhw hefyd wedi parhau i feithrin chwaraewyr ifanc megis Harry Robinson, Dan Fish a Luke Hamilton.
“Yn dilyn cyfarfod o fwrdd Gleision Caerdydd penderfynwyd chwilio am Gyfarwyddwr Rygbi llawn amser i reoli holl faterion rygbi’r rhanbarth o dymor nesaf ymlaen.
“Rydym ni’n chwilio am ymgeisydd sydd â phrofiad blaenorol yn y rôl hon ac sydd â dealltwriaeth ragorol o rygbi yng Nghymru”.
Ychwanegodd Richard Holland y bydd y dasg o chwilio am Gyfarwyddwr Rygbi yn dechrau yn syth.