Mae union 100 diwrnod i fynd heddiw cyn i Stadiwm y Mileniwm groesawu digwyddiad cyntaf y Gemau Olympaidd i Gaerdydd.

Y twrnament pêl-droed fydd yn dechrau holl gystadlu’r Gemau Olympaidd eleni, a hynny ar 25 Gorffennaf, deuddydd cyn y Seremoni Agoriadol yn Llundain.

Bydd y gêm agoriadol yn gweld Tîm Menywod y DU yn mynd ben-ben ag un o dimoedd eraill y byd, cyn i dîm dynion  y DU gamu i’r stadiwm yn ddiweddarach yn y gyfres o 11 sydd i gael eu chwarae yng Nghaerdydd rhwng 25 Gorffennaf a 10 Awst.

Ymhlith yr 11 gêm sydd i gael eu chwarae yng Nghaerdydd fydd gemau chwarteri’r twrnament a’r gêm fydd yn penderfynu enillydd medal efydd y twrnament.

Bydd y rhestr o pwy sy’n chwarae pwy yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth nesaf, 24 Ebrill.

‘Llwyddiant mawr’

Yn ôl Rheolwr Cyffredinol y Stadiwm, Gerry Toms, bydd clywed pwy sydd i wynebu pwy yn “ddiwrnod enfawr i gefnogwyr pêl-droed ac i bawb yng Nghymru, wrth i’r trefnwyr gyhoeddi pa dimoedd o safon rhyngwladol fydd yn ymddangos yng Nghaerdydd dros yr haf.”

Mae Gerry Toms hefyd yn dweud bod cynnal y twrnament yng Nghaerdydd yn “lwyddiant mawr” i Gymru.

“Mae hyn yn gyfle unwaith mewn oes i fod yn rhan o’r Gemau Olympaidd.

“Gydag 11 gêm yn cael eu cynnal mewn stadiwm  sydd â lle i 74,500 o dyrfa, mae digon o gyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad, a dwi’n gobeithio y bydd cefnogwyr Cymru yn dod yn eu llwythi i fod yn rhan o fwrlwm Llundain 2012 yn eu prifddinas eu hunain eleni,” meddai.