Aberystwyth 2-0 Airbus

Y tîm cartref a oedd yn fuddugol yng Nghoedlan y Parc nos Wener wrth i Aberystwyth groesawu Airbus.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr daeth y gôl agoriadol wedi 56 munud pan sgoriodd Sam Thornton o’r smotyn yn dilyn trosedd Danny Taylor ar Andy Parkinson.

Gwastraffodd Mark Cadwallader gyfle da i unioni i Airbus cyn i Geoff Kellaway sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref yn yr eiliadau olaf.

Mae’r canlyniad yn cadw Aberystwyth yn y degfed safle ac Airbus yn seithfed. Mae’n debyg mai dim ond un tîm fydd yn disgyn o’r gynghrair y tymor hwn felly mae Aberystwyth bellach yn ddiogel. Ac oni bai fod Airbus yn gwneud llanast llwyr ar y diwrnod olaf hwy fydd yn cipio’r seithfed safle.

Caerfyrddin 3-2 Lido Afan

Mae Caerfyrddin yn ddiogel ar ôl curo Lido Afan mewn gêm lawn goliau ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn.

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i gôl Mark Jones toc wedi hanner awr. Ond roedd Caerfyrddin ar y blaen wedi deg munud o’r ail hanner diolch i goliau Jack Christopher a chyn chwaraewr Lido, Jonathan Hood.

Unionodd Kristian James i Lido toc cyn yr awr ond adferodd Christopher fantais yr Hen Aur wedi 65 munud gyda’i ail gôl o’r gêm a’i chweched o’r tymor.

Gorffennodd Lido’r gêm gyda deg dyn, a hynny am y bedwaredd gêm gynghrair yn olynol, wedi i Daniel Thomas dderbyn ail gerdyn melyn bum munud o’r diwedd.

Mae Caerfyrddin yn aros yn yr unfed safle ar ddeg er gwaethaf y fuddugoliaeth ond all y Drenewydd ddim eu dal bellach felly mae eu dyfodol yn y gynghrair yn ddiogel. Mae gobeithion Lido Afan ar y llaw arall o orffen yn seithfed drosodd wrth iddynt aros yn y nawfed safle.

Llanelli 3-2 Prestatyn

Ennill fu hanes Llanelli yn erbyn Prestatyn o flaen torf siomedig arall ar Stebonheath brynhawn Sadwrn.

Dim ond 105 o gefnogwyr oedd yno i weld Chris Venables yn penio’r tîm cartref ar y blaen wedi dim ond dau funud.

Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal wedi 35 munud pan sgoriodd Ross Stephens o’r smotyn yn dilyn trosedd Lee Surman ar Paul O’Neill yn y cwrt cosbi.

Ac felly yr arhosodd hi tan 11 munud o’r diwedd pan beniodd Stuart Jones y Cochion yn ôl ar y blaen. Gwnaeth Craig Moses hi’n dair dri munud o’r diwedd gyda pheniad arall a gôl gysur yn unig oedd ymdrech Neil Gibson i Brestatyn yn yr eiliadau olaf.

Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl wrth i Lanelli aros yn bedwerydd a Phrestatyn yn chweched.

Y Drenewydd 2-2 Port Talbot

Bu rhaid i’r Drenewydd ffarwelio ag Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ugain tymor yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Port Talbot ym Mharc Latham brynhawn Sadwrn.

Llwyddodd Nick Rushton gael blaen troed i’r bêl i roi’r tîm cartref ar y blaen toc wedi hanner awr ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Ond unionodd Martin Rose wedi 54 munud cyn i Cortez Belle benio’r ymwelwyr ar y blaen ddeg munud o’r diwedd.

Brwydrodd y Drenewydd hyd y diwedd ond er i Rushton unioni’r sgôr gyda’i ail gôl yn y munud olaf doedd pwynt ddim yn ddigon i achub y tîm o’r canolbarth.

Mae’r canlyniad yn cadarnhau na fydd y Drenewydd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru’r tymor nesaf a hynny am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei ffurfio ugain mlynedd yn ôl. Mae Port Talbot yn aros yn wythfed a dim ond tri phwynt sydd yn eu gwahanu hwy ac Airbus yn y seithfed safle bellach ond main iawn yw gobeithion y Gwŷr Dur o orffen yn seithfed serch hynny gan fod eu gwahaniaeth goliau wyth gôl yn waeth.

Castell Nedd 1-3 Bangor

Mae gobeithion Bangor o gadw eu gafael ar bencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Castell Nedd ar y Gnoll brynhawn Sul. Les Davies, Peter Hoy a Mark Smyth oedd sgoriwyr y Dinasyddion

Y Bala 0-1 Y Seintiau Newydd

Gyda’r Seintiau Newydd mae’r fantais o hyd yn y ras am y bencampwriaeth wedi iddynt guro’r Bala ar Faes Tegid brynhawn Sul. Sgoriodd yr eilydd, Sam Finley, unig gôl y gêm i gadw’r Seintiau ar frig y tabl cyn iddynt groesawu Bangor i Neuadd y Parc ar y diwrnod olaf.