Aironi 23–26 Scarlets

Mae gobeithion y Scarlets o gyrraedd gemau ail gyfle’r RaboDirect Pro12 yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Aironi yn Stadio Zaffanella brynhawn Sul. Sgoriodd Bois y Sosban dri chais wrth drechu’r Eidalwyr yn gymharol rwydd yn y diwedd.

Llwyddodd Rhys Priestland gyda chic gosb gynnar i roi’r Scarlets ar y blaen cyn i faswr y tîm cartref, Luciano Orquera, gael ei anfon i’r gell gosb am ladd y bêl â’r Scarlets mewn safle addawol.

Yn absenoldeb Orquera ciciodd y cefnwr, Tito Tebaldi, gic gosb i unioni’r sgôr i’r Eidalwyr cyn i Priestland adfer mantais y Cymry gyda’i ail gic gosb hanner ffordd trwy’r hanner.

Dychwelodd Orquera i’r cae i unioni’r sgôr i’r tîm cartref am yr eildro cyn i’r blaenasgellwr, Johnathan Edwards, sgorio cais cyntaf y gêm i’r Scarlets. Croesodd Edwards y gwyngalch yn dilyn gwaith da gan Stephen Jones yn y symudiad. Llwyddodd Priestland gyda’r trosiad i ymestyn y fantais i saith pwynt.

Roedd diffyg disgyblaeth yn broblem i’r Eidalwyr trwy gydol y gêm a bu rhaid iddynt orffen yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i’r blaenasgellwr, Simone Favaro, gael ei anfon i’r gell gosb. A manteisiodd y Scarlets yn syth wrth i Priestland ymestyn y fantais i ddeg pwynt gyda’i drydedd gic gosb lwyddiannus.

Ond dechreuodd yr Eidalwyr yr ail hanner ar dân gan unioni’r sgôr o fewn chwarter awr. Anfonwyd blaenasgellwr y Scarlets, Josh Turnbull, i’r gell gosb a chiciodd Orquera dri phwynt i’r tîm cartref. Yna, daeth Aironi yn gyfartal gyda chais cosb wedi 52 munud.

Aeth Scarlets yn ôl ar y blaen toc wedi’r awr pan groesodd y cefnwr, Liam Williams ac roedd y fuddugoliaeth yn sâff 13 munud o’r diwedd pan sgoriodd yr wythwr, Ben Morgan, y trydydd cais.

Methodd Priestland y ddau drosiad felly dim ond deg pwynt oedd ynddi a llwyddodd Aironi i achub pwynt bonws gyda chais Guilio Toniolatti a throsiad Orquera yn yr eiliadau olaf.

Mae’r Scarlets yn aros yn chweched safle tabl y Pro12 er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent yn cau’r bwlch ar Glasgow yn y pedwerydd safle holl bwysig i ddau bwynt gyda dwy gêm ar ôl. Gobaith o hyd gweld dau ranbarth o Gymru yn y gemau ail gyfle felly.