Y Seintiau a Bangor yn Ennill
Mae’r ras am Uwch Gynghrair Cymru yn parhau wedi i’r Seintiau Newydd a Bangor ennill o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sul. Dau bwynt oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar y brig cyn heddiw ac felly mae pethau o hyd gyda dim ond chwe diwrnod tan y gêm rhyngddynt ar Neuadd y Parc ddydd Sadwrn.
Sgoriodd Sam Finley unig gôl y gêm ddeuddeg munud o’r diwedd ar Faes Tegid wrth i’r Seintiau gipio’r tri phwynt yn erbyn y Bala.
Yn y cyfamser roedd pedair gôl ar y Gnoll wrth i Fangor guro Castell Nedd o 3-1 diolch i goliau Les Davies, Peter Hoy a Mark Smyth.
Y Bala 0-1 Y Seintiau Newydd
Doedd y Seintiau ddim ar eu gorau yn yr hanner cyntaf ac roedd y Bala hefyd wedi gwella dipyn ers y gêm rhwng y ddau dîm yng Nghwpan Cymru ychydig wythnosau yn ôl.
Yn wir, dim ond un cyfle clir a gafodd yr ymwelwyr trwy gydol y 45 munud agoriadol. Daeth hwnnw i Aeron Edwards wedi ychydig llai na hanner awr ond daeth Terry McCormick allan yn gyflym ac yn ddewr i’w atal.
Conall Murtagh a gafodd gyfle gorau’r Bala yn y pen arall ond llwyddodd Paul Harrison i arbed yn gyfforddus.
Bu rhaid i McCormick arbed cynnig Alex Darlington ddau funud wedi’r egwyl ond er gwaethaf goruchafiaeth y Seintiau ychydig iawn o gyfleoedd a grewyd gan y tîm ar y brig ar ddechrau’r ail hanner.
Cafodd y Bala ddau gyfle gwych i fynd ar y blaen eu hunain hanner ffordd trwy’r ail hanner ond gwastraffwyd y ddau gan Lee Hunt. Camgymeriad Steve Evans a gyflwynodd y cyfle cyntaf iddo ond dangosodd ansicrwydd gan ganiatáu amser i amddiffyn y Seintiau adfer y sefyllfa. Gwnaeth yn well pan dorodd y trap camsefyll funud yn ddiweddarach ond methodd a churo Harrison.
Daeth yr eilydd ifanc, Sam Finley, i’r cae i’r Seintiau gyda chwarter awr i fynd a dim ond dau funud a gymerodd i greu argraff. Croesodd Craig Jones yn gywir i’r cwrt cosbi a pheniodd Finley yn gywir heibio i McCormick o wyth llath.
Bu bron i Danny Williams unioni i’r tîm cartref yn hwyr yn y gêm ond llwyddodd Chris Seargeant i benio’r foli oddi ar y llinell.
Roedd y Seintiau ym mhell o fod ar eu gorau ar Faes Tegid ond roedd yr un gôl yn ddigon i gipio’r tri phwynt holl bwysig
Castell Nedd 1-3 Bangor
Aeth Bangor ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda gôl a oedd un ai yn lwcus neu yn wych. Derbyniodd Les Davies y bêl gan Sion Edwards cyn ei chodi dros Lee Kendall i gornel uchaf gôl Castell Nedd o ugain llath ac o ongl dynn. Dim ond ymosodwr Bangor fydd yn gwybod os mai ergyd neu groesiad oedd doedd Bangor ddim yn poeni achos roeddynt ar y blaen.
Roeddynt ym mhellach ar y blaen wedi 35 munud diolch i Peter Hoy. Methodd amddiffyn Castell Nedd ag ymdopi â chic gornel Chris Jones a chafodd Hoy beniad syml wrth y postyn pellaf i ddyblu mantais y Dinasyddion.
Dim ond arbediad gwych gan Kendall wnaeth atal Chris Jones rhag ychwanegu trydedd cyn yr egwyl ond roedd Bangor yn ddigon cyfforddus ar hanner amser.
Hanerwyd mantais Bangor wedi dim ond chwe munud o’r ail hanner wrth i Matty Collins sgorio i’r tîm cartref. Methodd amddiffyn Bangor â chlirio’r perygl a phan ddisgynnodd y bêl i Collins ar ochr y cwrt cosbi fe darodd y chwaraewr canol cae foli gywir heibio i Lee Idzi.
Ond sicrhaodd Mark Smyth y fuddugoliaeth i Fangor hanner ffordd trwy’r ail hanner. Dwynodd Dave Morley’r bêl yng nghanol y cae cyn ei phasio i Smyth. Roedd gan yntau ddigon i’w wneud o hyd ond rhedodd yn bwrpasol tua’r cwrt cosbi cyn ergydio’n gywir i’r gornel uchaf, dim gobaith i Kendall a’r tri phwynt yn sâff i Fangor.
Y Sefyllfa
Mae buddugoliaeth y Seintiau yn eu cadw ar y brig ddau bwynt yn glir o Fangor. Bydd gêm gyfartal yn ddigon i’r Seintiau ar Neuadd y Parc yr wythnos nesaf i gipio’r gynghrair felly. Ond bydd rhaid i Fangor ennill os am gadw eu gafael ar y bencampwriaeth.
Un peth sy’n sicr, fe fydd hi’n dipyn o ddiweddglo i’r tymor beth bynnag sy’n digwydd.